Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EUENCTTD CYM 1\U Rhif 1. IONAWR. Cyfrol 1. TYRED A GWEL. Ar gais y cymerasom at olygiaeth y misolyn newydd hwn. Daeth y cais atom oddiwrth nifer o bobl, y rhai a safent yn uchel yn ein barn am eu diwylliant, eu crefydd, a'u hymroad. Pobl ieuaincydynt a amrywiant yn eu safleoedd cymdeithasol, gan y gwneir hwy i fyny o fasnachwyr, crefftwyr, glowyr, ysgrifenwyr swyddfaoedd, &c- Rhoddasom ein cydsyniad iddynt. 1.—Am fod y maes y galwent fy sylw ato yn un o ddyddordeb cynyddol i ni, ar hyd y deng mlynedd diweddaf. 2.—Am y teimlem y buasai golygu dau Gyhoeddiad yn Fisol yn waith hawdd am y buasent yn cerdded ar yr un llinellau, gan y buasai y naill yn Fisolyn y Bobl Ieuanc, a'r llalî, yr hwn sydd o dan ein gofal eisoes yn Fisolyn y Piant. 3.— Gwelem nad oes hyd yn hyn yr un cyhoeddiad yn Nghymru yn y Gymraeg, yn cael ei droi allan yn gyfíawn ac yn uniongyrchol i Bobl leuainc. Ar gyfrif hyn yr ydym yn galw y cylchgrawn hwn yn " Ieuenctyd Cymru." I'w budd a'u bendith hwy y daw allan, ac y cyhoeddir ef o fis i fis. Y mae genym eisoes addewidion sicr o gynorthwyon gwerthfawr. ^ofelir arn yr Adran Gerddorol gan Mr. William John Evans, Commercial Street, Aberdar, yr hwn sydd yn gerddor ieuanc o fedr ac o sylw, ac yn llawn tán. Ni chyr- haedda y Cyhoeddiad ei amcan cynhenid heb ei fod yn dwyn allan ^alentau pobl ieuainc mewn llenyddiaeth, barddoniaeth a chân. Pelly, gwneled y cyfryw yn hyf ar ei ymddangosiad ; a bydded iddynt edrych arno yn eiddo penodol i'w goîeuni a'u hyfforddiant hwy. Bid s'cr, ni a hyderwn ar gydymdeimlad beirdd, llenorion, a cherddorion Pi'ofìadol, yn feibion ac yn ferched. le, yn ferched yn o gystal ag yn *eibion, gan y bwriedir i'r merched fel i'r meibion i gael rhandir teg yn maes y Cyhoeddiad ; a gobeithir y bydd yr oll o'r ysgrifau yn