Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

S^ueîîcfyd Gymru Cyfrol I. AWST, 1899. Rhif 8. jAt ein. GoRebioyr. 1.—Archebion a Thaliadau i Mr, G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdar. 2.—Gofala Mr. Wílliam John Evans, Commercial Street, Aberdar, am y Gerddoriaeth. 3.—Pob peth arall i'r Gol. 4.—Yn Eisiau : Hanesion Byrion am Bersonau, &c, a gwersi er lles oddiwrthynt. (Darn Adroddiadol). Gan Ap G. Ar foreu hafaidd tyner,— Yr ydoedd geneth gu Yn rhodio glan y weilgi werdd, Gan dywallt dagrau'n lli' ; Ond dagrau o lawenydd Oedd eiddo'r anwyl fun, Can's gwelai'r llong yn dod o draw A gluda'i Harthur cun. Offryma ddiolch calon I Grewr dae'r a nef, Am Iddo ddal yn nghil Ei ddwrn Gyhyd y 'storom gref; Er galluogi Arthur, Ei ffyddlawn garîad mad, I gyrhaedd yn ddiogel Éi enedigol wlad.