Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

-*# ffiüETOYD CYffiü. 3N- Cyf. II. Awst, 1900. Rhif 20. Äí em GoÇeBw^p, 1 —Archebion a Thaliadau i Mr. G. Griffiths, 2, Ynyslwyd street, Aberdare. 2—Gofala Mr. William John Evans, Commercial street, Aberdar, am y Gerddoiriaeth. 3—Pob peth arall i'r Golygydd. 4—Yn Eisieu : Hanesion byrion am bersonau, &c, a gwers er Hed oddiwrthynt. Ein Gohebwyr—Danfoned pobl ieuainc eu cynyrchion i ni mewn cân, barddoniaeth, a llenyddiaeth. Mae'r Cyhoeddiad yn ei genhad- aeth yn benodol at wasanaeth gohebwyr ieíiainc. Gair yn ei Bryd ae o Bwys at Bobl Ieuaine Cymru. Gany Gplygydd. Yn y rhifyn hwn cewch Raglen ail Gymanfa Undeb Cristionogol Pobl Ieuainc Cymru. Darllenwch hi yn araf ac yn feddylgar, ac yn ngoleuni y byd ysbrydoU Raglen gyfoethog ydyw, am ei Henwog- ion, ei Thestynau, a mawredd ei chenadaeth. A welwch chwi Dduw yn y Rhaglen ? Daw yr Ysbryd Glan yn nes o hyd at Bobl Ieuainc ein gwlad. Ni buodd erioed o'r blaen yn siarad a chynifer yn Nghymru. A oes Diwygiad gerilaw ? Pobl ieuainca gaiff y fantais oreu o hono ; a hwy a wnant y rhan flaenaf a phenaf drosto hefyd. Gwelsom un lleol felly. O'r fath olygfeydd ! Gwelsom yr adeg hono famau ieuainc a babanod wrth eu bronau yn cerdded o dy i dy i gymhell pobl ^annuwiol i foddion gras ; a chlywsom bymtheg o weddiwyr yn gweddio ar ol eu gilydd nes buasai y lle yn orfoledd o gongl i gongl ; a gorphenai \ r oll o honynt mewn lîai nag ugain munyd ; a chanfyddem fechgyn ieuainc ar ol eu dydd gwaith ac ar y Sabboth yn gorymdeithio heolydd ac yn canu, siarad a gweddio, ar ben ffyrdd nes buasai pobl ddrwg yn rhedeg atynt yn lle rhedeg