Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

-Hc ffiöEJMMD CYJÛÇÜ. *<- Cyf. II. Tachwedd, 1900. Rhif 23 Ät eìn fêoÇeB-wp, 1 -Archebion a Thaüadau i Mr. G. Griffiths, 2, Ynyslwyd street, Aberdare. 2—Gofala Mr. William John Evans, Commercial street, Aberdar am y Gerddoriaeth. 3—Pob peth arall i'r Golygydd. 4—Yn Eisieu : Hanesion byrion am bersonau, &c, a gwers er lles oddiwrthynt. Ein Gohebwyr—Danfoned pobl ieuainc eu cynyrchion î ni mewn cân, barddoniaeth, a llenyddiaeth. Mae'r cyhoeddiad yn ei genhad* aeth yn benodol at wasanaeth gohebwyr ieuainc. Cçreír a (SfodL IE ddywed yr awduies alluog a doeth Madam Sarah Grand bethau dyddorol a phwysig o dro i dro. Priodola lawer iawn o drueni cymdeithasol, yn benaf yn y teulu, i dri achos. Un ydyw coginiaeth wael; a'r llall ydyw amgylchoedd anhapus; a'r trydydd ydyw annghydwelediadau rhwng perthynasau, megys rhwng pwr a gwraig, a rhwng brodyr a chwiorydd, a gweision a morwynion. Traetha ffeithiau nodedig o fuddiol i ferched ieuainc. Cyfeiria at rai o honynt yn ymgeisio am briodi, ac yn priodi am eu bod yn cashau eu cártrefì. Nid ydynt yn foddlon ar waith y ty ; neu maent ar delerau annghysurus a'u mam neu eu tad; neu mae ganddynt wrthwynebiad i'w brawd neu eu chwaer; a'r canlyniad yw i fod eisieu priodi arnynt. Dylai dau beth o leiaf reoleiddio priodas, sef cariad y naill at y llall; a gwerthfawrogiad y naill a'r lla.ll ar gyfrif eu rhagoriaethau moesol. Rhagoriaethau moesol ydynt yr un pethau ag aros ynddynt, a'u dyddordeb yn gynyddol; ac nid ydym