Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 3.] MAWRTH, 1849. [Cyfbol iii. JloöfortiÎJtaö 5 gíotr Srtstíoru Ymddengys mai y dyb gyffredinol yw, os genir ni inewn gwlad Ue y mae Cristionogaeth yn grefydd sefydledig, ein bod wedi ein geni yn Gristionogion; ond camgymmeriad mawr yw hyn; y mae bod yn wir Gristion yn arwyddo cyflwr ysprydol; meddiant o natur arbennig ynghyd â'i theithi a'i pherthynasau. Sefyllfa ydyw ar nas genir ni ynddi, ond i'r hon y mae yn rhaid ein trawsffurfio; natur ar nad ydym yn ei hetifeddu, ond un ag y creir ni ynddi o newydd gan yr Yspryd Glàn, drwy ras Duw yn yr ym- arferiad o'r moddion ordeiniedig. Crynodeb gynnwysfawr o nodweddiad gwir Gristionogion yw eu bod yn rhodio drwy ffydd, nid wrth olwg, hynny ydyw, nid yn unig eu bod yn credu mor ddiysgog mewn gwobrau a chospedigaethau yn y byd a ddaw, fel ag i gael eu tueddu i ymgadw yn bennaf o fewn llwybr dyledswydd, er cael eu temtio i'w adael gan fudr elw a mwyniant tymhorol; ónd y'mhellach fod y gwir- ioneddau mawrion, a ddatguddir yn yr Ysgrythyr am y byd anweledig, gan mwyaf yn fyfyrdod pennaf eu meddyliau, ynghylch y rhai y byddo eu calonnau yn gwastadol bryd- eru. Gyda golwg ar dymher gwir Gristion, y mae yn gyfan- sawdd o gadernid, sirioldeb, heddwch, a chariad; y mae yn amlygu ei hun mewn gweithredoedd o garedigrwydd a thir- iondeb; nid yw yn ymchwyddo mewn lîwyddiant, nac yn llwfrhau mewn adfyd; y mae yn hwyrfrydig i ymddial a niweidio, ond bob amser yn barod i faddeu i elynion. Mewn perthynas i gyfiwr Cristionogion yn y byd hwn, rhaid ei fod yn wahanol, yn gymmaint a bod eu Uwybrau wedi eu cylchynu â chynllwynion; weitliiau ymddengys eu bod yn myned rhagddynt yn gyflym mewn buchedd dduw- iol, weithiau yn arafu, os nid yn myned yn ol; ar rai pryd-