Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YK EGLWYSYDD. Rhif. 7.] GOEPHENHAF, 1849. [Cyfeol iii. Ŵorír a (£au=gr£tpìiìi. Y mae y nieddwl anhyddysg yn gyffredin yn meithrin rhag- farn yn erbyn Crefydd oblegid ei fod yn cymmysgu ei heff- eithiau â'r hyn sydd yn cael ei arddangos trwy ddylanwad gau-dybiau. Ond nid yw goleuni a thywyllwch yn fwy gwrthgyferbyniol na'r hyn sydd gynnwysedig mewn crefydd a gau-dyb. Y mae un wedi ei geni oddi uchod, ac yn ei dilyn rasusau nefol, sef, tangnefedd, llawenydd, a chariad. Y mae y llall yn deilliaw oddi wrth dad y tywyllwch, ac yn ei dilyn gwrthryfel, gormes, a thwyll. Y mae mewn gwir grefydd sirioldeb naturíol, oblegid fod ei meddiannydd yn gydwybodol ei fod mewn sicrwydd o ffafr Ddwyfol. Y mae ei rhinweddau yn trigo yn y galon, a'i grasusau yn ymddis- gleirio yn yr ynmrweddiad. Y mae gau-grefydd, o'r ochr arall, wedi ei gorchuddio â thywyllwch, ac yn dylanwadu ar ei deiliaid mewn trais, trwy anwybodaeth, ammheuon, ac ofnau. Y mae gwir grefydd yn dangnefeddus, addfwyn, trugarog, ac amyneddgar; tra mae gau-grefydd yn dost, dialgar, a didrugaredd, ac y mae yn meithrin gwrthryfel a chreulonder ym mynwes ei deiliaid. Y mae wedi bod yn gwisgo ysgod gwir grefydd am lawer o fìynyddoedd, ac yn y cynimeriad ffuantus hwn cyfiawnodd ysgelerder, a ach- osai i wrid fantellu gwyneb dyn, pan yn adolygu ei dylan- wadau ar y cynoesoedd. Gau-grefydd a wrthododd y Messi- ah, ac a fynnodd ei groeshoelio, yn ddiniwed; ac wedi hyn- ny a gynneuodd ffiammau erledigaeth i'w ddilynwŷr. Lly- ma yr hyn a gyfododd ddychymmygion o greulonder yn y meddwl dynol yn y cynoesoedd pan oedd y ddaear wedi myned yn llesg trwy yfed gwaed ei thrigolion, y rhai a rodd- id i farwolaeth, am ddilyn y gwirionedd, yn y modd mwyaf dirboenus a. ellid ei ddyfalu. Ffurfiodd bob arteithglwyd a fu ac y sydd; ac y mae mwg ei choelcerthau wedi tywyllu