Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDD. Rhif. 2. CHWEFROR, 1851. Cyf. I. €£&=gm&nmlaìí ertst- Y mae dau beth yn rheidiol i gyafn- soddi cyd-ymdemilad—unolrwydd mewn dioddefiadau, a thynerwch mewn teimlad. Mor berffaith ydyw y cymmwysderau hyn yn ein Iach- awdwr ! I.—Unolrwydd mewn dioddejiad- au. Yr oedd natur ddynol Crist yr un a'n natur ni. Yr oedd yn wr, ac yn wr gojidus. " Gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, yn- tau hefyd yr un modd a fu gyfran- nog o'r un pethau." Fe deimlodd Yntau yr holl boenau a'r gwendidau sydd yn perthyn i'n cyflwr presen- nol o fodolaeth. Fe ddygodd dlodi, afiechyd, lludded, newyn a syched ; Fe ddioddefodd annhiriondeb, am- ddifadrwydd, anghyfiawnder, ac er- ledigaeth. Yr oedd yn ddyledus iddo Ef " ym mhob peth fod yn gy- ffelyb i'w frodyr; fel y byddai dru- garog ac Arch-offeiriad fíýddlon; fel yn gymmaint a dioddef o hono ef, gan gael ei demtio, y byddai dichon iddo gynnorthwyo y rhai a demtir."—Heb. ii. 17, 18. A ydych chwi yn barod i ddweyd, ddarllenydd anwyl, yn chwerwedd eich yspryd, " A oes gofid neb yn debyg i'm gofid i ? " Oes; yr oedd Iesu ym mhob peth wedi ei demtio, neu ei brofi, yn debyg fel yr ydych chwi. Fe allai nad oes neb o'ch amgylch yn gallu gwybod beth yw eich teimladau, ond y mae yr Iach- awdwr yn gallu eu cwbl amgyffred hwynt. " Pwy wrendy riddfan f' enaid gwan, Pwy 'm dwg o'm holl ofidiau i'r lan, Pwy ddwg fy maich fel Brenhin ne,' Pwy gyd ymdeimla fel Efe ? " Trwy eich bywyd, ac yn angau, nid oes modd i chwi gael yr un gofid na fedr Efe ei gyflawn am- gyffred a gwybod am dano. Gan hynny agorwch eich mynwes lwyíh- og iddo Ef; tywalltwch eich calon ger ei fron Ef; deuwch yn hyderus at orseddfaingc ei ras, fel y caffoch ras yn gymmorth cyfamserol. Nac ofnwch neshâu at yr Iachawdwr; y mae Efe yn gwahodd y blinderog a'r llwythog, ac ni thyrr y gorsen ysig ; oblegid y mae yn II.—Tynerwch teimladau yn nod- wedd arbennig yn Mab y dyn. Fel un yr hwn y diddana ei fam Ef, felly y didddana Efe chwi. Weith- iau y mae y rhai a aethant drwy yr un dyfroedd dyfnion o gystuddiau â ni ein hunain o duedd oeraidd a hunangar, ac felly yn anghymmwys i gyd-ymdeimlo â ui. Beth yw