Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRE9 NEWYDB. Rhif. 3. MAWRTH, 1851. Cyf. I. §? gtuenttS a'* tts+ "Y gwenith a'r us,"—dau beth cyffelyb, ac etto yn wahanol:—yn cyd-dyfu oddi ar yr un gwreiddyn, —yn cyd-addfedu dan yr un haul- wen—ond yn y pen draw yn cael eu didoli oddi wrth eu gilydd, y naill i'w gludo i'r ysgubor, a'r llall i'w adael, fel peth dibris, i fyned ymaith gyd â'r gwŷnt. Dyna hanes byr y gwenith a'r us ; ac ni fuasai yn werth sylw neillduol, ond bod yr Arglwydd yn ei air wedi cyssylltu â hwynt wersi tragywyddoldeb. Cydmerir ei bobl i wenith, a'r rhai nad ydynt bobl iddo i'r us; ac y mae y ddau ddosparth hyn, fel y gwenith a'r us, yn gyffelyb ac etto yn wahanol,—yn tarddu oddi ar yr un gwreiddyn : hîl Adda ydynt oll —yn cyd-addfedu dan haulwen yr un Rhagluniaeth—yn cael eu gosod yn yr un llawr-dyrnu— ond yn y pen draw yn cael eu didoli oddi wrth eu gilydd, y naill i gael eu der- byn i deyrnas Dduw, a'r lleill i'w trosglwyddo i'r tân anniífoddadwy. —" Yr hwn y mae ei wỳntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawr- dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'r ys- gubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy " ! Mae'r gwenith yn arwyddo sylw- edd: rhywbeth ydyw hwn a ddi- oddefa ei guro a'i ddyrnu, ac etto fydd yn werthfawr er y cwbl;—ie, yn well am y dyrnu, ac yn fwy eym- mwys i'r ystordý. Felly mae gwir ddisgyblion Crist: nid cysgod sydd ganddynt, ond sylwedd: mae eu crefydd hwy yn beth a ddìoddefa ei brofi, a'i guro, ac a fydd yn well am y cwbl. Mae eu ffydd yn un sylw- eddol,—nid proffes y genau yn unig, ond egwyddor y galon ac o blanniad Duw. Mae eu cariad hefyd yn un sylweddol,—nid teimlad cynhyrfìol, yn parhâu anr ychydig, ac yna yn diflannu, ond "fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd." Mae eu gobaith hefyd yn un sylw- eddol—" Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddíogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r Uen." Am hynny hwy a safant yn awr profedigaeth. Maent megis tý wedi ei adeiladu ar graig, yr hwn ni chwympa er i'r llifeiriaint gyfodi,