Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 6. MEHEFIN, 1851. Cyf. I. !Tx ®xìsìsmQQ8wtt iHíaíur* Gwelir yn Lhmdain yn bresennol un o ryfeddodau mwyaf yr oes hon, ac, fe allai, y fwyaf o'i bath yn oes y byd, sef casgliad o amryw weith- redoedd cywrain gwahanol genhed- loedd y ddaear, mewn palas o wydr a adeiladwyd i'r pwrpas mewn ych- ydig o fisoedd. Yno canfyddir ífrwyth gallu, a chelfyddyd, a chyw- reinrwydd dynol, ac y mae yr olygfa yn un a bâr syndod i bob edrychwr. Fe wêl y darllenydd hanes am yr Arddangosiad rhyfedd hwn ar glawr y rhifyn presennol, ac yma dymuuwn osod i lawr ychydig o'r meddyliau hynny sydd yn debyg o ymgodi ym mynwes y Cristion my- fyrgar wrth ystyríed y fath olygfa. Wrth edrych ar yr holl nwyddau a'r amrywiol beirianwaith, a gasgl- wyd ynghýd yn yr adeilad risial- aidd, gwelwn fawredd a gallu en- aid» dyn, ac, yr ydym yn barod i gredu, mai gwir oedd yr hyn a ddy- wedwyd tua dechreu ei fodoliaeth, "Chwi a fyddwch megis duwiau." Gwelwn yma holl elfenau anian wedi eu dwyn dan ei lywodraeth ef, ac yn ddarostyngedig i'w ewyllys;— y tan, a'r dwfr, a'r awyr wedi eu dofi megis a'u gorfodi i ddwyn ymlaen amcanion ei gelfyddyd. Y mae 'r coed a'r cerrig, a'r haiarn a'r pres, a'r arian a'r aur, a'r perlau a'r gem- mau, yma yn talu bob un ei deyrn- ged i'r hwn a osodwyd yn arglwydd y grëadigaeth, tu ag at addurno ei balasau, neu ychwanegu ei fwyn- iant, neu ddiwallu ei angenrheid- iau, neu hwyluso ei symmudiadau ! Gwelir yma ryfeddodau a glodd- iwyd o grombil y ddaear, ac eraill a ddygwyd o eithafoedd byd—oll yn tystio i ddiwydrwydd, a medr, a chywreinrwydd dyn. Ond ynghanol y cwbl mae yma hefyd brawf o'i feidrolder; pethau dìfywyd ydynt oll;—er amled eu nifer, nid oes yr un a allasai ei wneuthurwr ei gynnysgaeddu âg anadl einioes. Fe all dyn hollti'r creigiau, a thoddi'r metelau, a'u plygu a'u Uunio yn ol ei ewyllys,— 'ie,—gall ymaflyd megis yn nerth y fellten a'i wneuthur yn gyfrwng i hyspysu ei feddwl gannoedd o fiU- tiroedd draw,—-fe all ffrwyno grym yr ager (steam) a'i rwymo megis