Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD 6YFRES NEWYDD. Rhif. 1. IONAWR, 1852. Cyf. II. V Ctttaŵttr Netogtíìí. Wele ddechreu blwyddyn newydd gyd â'i holl ddyledswyddau, per- yglon, treialon, a thrugareddau ! Dyma dalent newydd oddi ar law ein Tad nefol, wedi ei rhoddi i ni am ychydig yspaid i'w threulio er gogoniant i'w Enw Ef, ac er iach- awdwriaeth ein heneidiau. Mae hwn gan hynny yn amser buddiol i sefyll ac edrych yn fanwl i mewn i'n cyflwr, ac ystyried mewn pa fath gyflwr tu ag at Dduw mae'r hen flwyddyn wedi ein gadael, a pha beth yw ein penderfyniad. am y flwyddyn newydd—pa sut y defn- yddiasom y taleatau a roddwyd i ni eisoes, a pha fodd yr ydym am ddefnyddio yr hon a roddir i ni yn awr. Ar amserau pan y mae llawer o ysgrifenu, a llawer o ddadleu, a llawer o gyfeiliorni ynghylch Cre- fydd, y mae'n dra angenrheidiol edrych at ei hegwyddorion sylfaen- ol, a dal ein gafael yn y pethau syl- weddol hynny a ddaliant eu pwysau yng nghloriannau Duw yn y dydd hwnnw, pan y chwelir ymaith bob gau Grefydd a phob cyfeiliornad dynol, megis us, o flaen tymmestl digofaint y Goruchaf! Nid peth arwynebol yw gwir Grefydd, ond peth profiadol a bywiol. " Od oes neb yng Nghrist," medd St. Paul, " y mae efe yn greadur newydd,"— neu, y mae yno greadigaeth new- ydd,—"yr hen bethau a aethaut heibio; wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd." Mae'r iaith hon yn un gadarn iawn, yn dynodi rhywbeth mwy nâ phroffes neu gyf- uewidiad allanol yn unig,—rhyw- beth trwyadl, ag sydd yn effeithio ar yr holl ddyn. Y mae hefyd yn ymadrodd cymmwys iawn i arwyddo y cyfhewidiad sydd yn cymmeryd lle yn y sawl sydd yn wirioneddol yng Nghrist. Canys beth yw creu P —Gwneuthur peth allan o ddim. Pan ddywedir i Dduw greu y byd- oedd, deallir iddo nid yn uuig ddwyn defnydd i drefh ag oedd yn bodoli cynt, ond iddo alw y defn- yddiau eu hunain i fodoliaeth o groth y gwagle. Efe a ddywedodd, "Bydded,"—ac felly y bu ! Ac megis yn y Greadigaeth naturiol nid oedd gan y Creawdwr ddefn- yddiau o ba rai i ffurfio byd, cyn iddo Ef eu crëu, felly y mae hefyd yn y Greadigaeth Ysprydol. Nid oes yn y pechadur anailanedig ddim defnyddiau moesol, o ba rai y gellir ffurfio plentyn Duw. Gwag- le yw ei enaid o ran dim daioni ys- prydol. " Mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i) ddim da yn trigo." Darlunir ef fel " yn dywyllwch," ac ni's gall tywyllwch fod yn ddefhydd goleuni;—fel yn farw, ac ni's gall marwolaeth fod yn ddefnydd bywyd. Ac etto mae yn