Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYÜD. Rhif. 7. GORPHENHAF, 1852. Cyf. II. J&amroatt* " Mae arnom eisiau mwy o fam- mau," ebai yr Ymerawdwr Napole- on;" hwynt-hwy yw yr athrawon mwyaf effeithiol; iddynt hwy y mae yn perthyn i addysgu'r galon, yr hyn sydd llawer mwy dylanwadol nâg addysg y pen." Felly y dy- wedodd un a arferai sylwi yn fanwl ar bethau, ac yr oedd ei ddywediad wedi ei sylfaenu nid ar egwyddor, ond ar ffeithiau. Gellid enwi am- ryw engreifftiau, ymha rai y ffurf- iwyd cymmeriad uchel ac enwog trwy addysg boreol a synhwyrol y fam. Ond " os gwir yw," medd Adolphe Monod, " bod y rhan fwy- af o wŷr enwog yn ymgyffelybu i*w mammau, mae hyn yn wir o barth i'r dyn crefyddol yn anad neb. Mae hanes y Bibl, hanes yr Eglwys, a hanes yr oes bresennol oll yn cyd- dystio i'r ffaith hwn, neu, yn hytr- ach yn rhoddi rhyw awgrymiad o hono ; oblegid os mynnwn weled y fam, mae'n rhaid chwilio am dani tu ol i'r mab, yr hwn yn unig sydd â'i enw mewn coffadwriaeth ymhlith dynion. Ond dyma'r hyn ag y mae mam Grist'nogol yn ei geisio; os achubodd hi ei mab, y mae hi wedi cyflawni ei chennadwri fel gwraig; ac os achubodd hi ef heb ymddan- gos ei hunan, y mae wedi ei chyf- lawni yn ddyblyg. Edrychwch i'r Bibl. "Beth yw diben y rhagymad- rodd byr ag y mae yr Ysgrythyr yn ei roi yn nechreu hanes Samuel, oddi eithr i ddangos cymmeriad y gwr duwiol hwü,—yr hwn oedd mor gadarn mewn gweddi,—y ddolen gyntaf yng nghadwyn y prophwydi, diwygiwr mawr yr Eglwys a'r wlad- wriaeth—trwy goffâu ffydd, addun- ed, ffyddlondeb, a mawl Hannah ei fam ? Beth oedd diben yr hanes byr, ymha un y mae yr Ysgrythyrau sanctaidd mewn mannau eraill yn mynegi mewn dull cyffelyb gymmer- iad un fel Moses, neu Ddafydd, neu Timothëus (Exod. 2. 10.—Heb. 11. 28.—Fs. 86. 16.—116. 16.—Act. 16. 1.—1 Tim. I. 5), ac yn ar- wyddo yr achos paham y mynegant i ni yr hyn a allai ymddangos mor ddibwys, sef, pwy oedd mammau brenhinoedd Judah. Edrychwch i mewn i hanesion yr Eglwys. Pwy all glywed enw St. Awstin—y goleuad disglaer hwnnw, yr hwn a fu ddwywaith ar gael ei ddiffoddi, ond a gipiwyd bob tro o afael pechod a gau-athrawiaeth i ogoneddu y gwir a'r bywiol Dduw dros yr holl genhedlaetb.au—heb ganfod ynddo, yn y waredigaeth ddyblyg hon, yn nesaf i law Duw, law ei fam dyner, ostyngedig, ac amyneddgar, Monica ! Ond cof- iwch fod gan Chrysostom, Basil fawr, Gregory Nazianzen, a llawer- oedd o'r rhaia ddilynasanteullwybr- au hwy, bob un ei Monica, â'r hon