Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFBES NBWYDD. Rhif. 12. RHAGFYR, 1852. Cyf. II. ^tottnUnt Mae 'r enw hwn yn dwyn perthyn- as â gwrth-dystiad eglur a díarbed yr Eglwys Gristionogol yn erbyn traws-arglwyddiaeth a gau-athraw- iaethau yr Anghrist Pabaidd. Ar- ferwyd ef gyntaf yn y flwyddyn 1529, pryd y cynhaliwyd Diet neu Gymmanfa Pendefigion yr Almaen yn Spires, lle y gwnaethpwyd deddf i gyfyngu ar ryddid y Diwygwýr a'r sawl oeddynt wedi ymwrthod â Phabyddiaeth. Ymddangosai y ddeddf hon i amryw o'r pendefig- ion, ag oeddynt yn ŵyddfodol, yn hollol anghyfiawn, megis yn wir yr ydoedd; ac am hynny, gan nad allent lwyddo i'w rhwystro, arwydd- asant protest neu wrth-dystiad dif- rifol yn ei herbyu, ac oddi wrth hyu y cawsant yr enw Potestants, neu wrth-dystwýr. Wedi hynny daeth hwn i fod yn enw cyflredin i bawb a safent yn erbyn cyfeiliornadau Pabyddiaeth. Ond yr oedd mwy nâ hyn yn cael ei arwyddo ganddo yn awr, ac y mae y gair hefyd o ran ei gyfansoddiad yn arwyddo mwy. Yr oedd y Protestaniaid hyn nid yn unig yn tystio yn erbyn cyfeil- iornad, ond hefyd yn tystio tros y gwirionedd; ac yr oedd yr un enw yn arwyddo ymwrthodiad â'r blaen- af, ac ymlyniad wrth yr olaf. Pro- testaniaid o'r fath hyn oedd ein Merthyron ;— dyma yr egwyddor a'u harweiniodd hwy i garchar ac i'r tân;—ac yn y ddau ystyr hyn y mae ein Llyfr Gweddi, ein Erthygl- au, a'n Homiliau yn Brotestanaidd drwyddynt. Felly fe ddylai hyd yn oed yr enw "Protestant" fod yn an- wyl gan bawb sydd yn caru coffad- wriaeth ein Merthyron, ac egwydd- orion ysgrythyrol ein Herthyglau. Ond y mae rhai wedi ymddangos yn ein plith, a ddymunent daflu ymaith yr enw hwn, ac ymwrthod â'r nodweddiad anrhydeddus yma a berthyn i'n Heglwys. Y cyfryw ydoedd Newman, a Froude, ac Oakley, a Ward, ac eraill sydd er- byn heddyw wedi myned i'w lle priodol, ac am ba rai y geUir dweyd, megis y dywedodd St. Ioan am frodyr gau yn ei ddyddiau ef, "Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt hwy o hon- om ni: canys pe buasent o honom ni, hwy a arhosasent gyd â ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll o honom ni." Diben pro- ffesedig y dynion hyn, pan yn ein plith, ydoedd dilëu Protestaniaeth yr Eglwys. I'r diben hwn difrient y Diwygiad, a'r Diwygwýr; siarad- ent yn dyner am Rufain,—hoffent honni perthynas â hi, gan ei galw "ein chwaer! " ie, ysgrifenodd New- man draethawd i ddibrotestaneiddio yr Erthyglau, fel y gallai y neb a fynnai eu hystwytho yn ol ei ewyll- ys; cynnygiodd dorri y fath fylchau yn y rhagfuriau hyn o eiddo'n Heg- lwys, fel y gallai pob Pabydd ddyfod