Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFBES NEWYDD. Rhif. 3. MAWRTH, 1853. Cyf. III. $oll=fcrmuuoltefc í&ttto. Y mae yr athrawiaeth o Fod Tragy- wyddol ac Hunanymddibynnol yn cynnwys yn ei meddyl-ddrych, ei fod Ef yn bresennol ymhob man drwy ei greadigaeth anfesuradwy; ac os oes rhyw wagle anfeidrol, íle nad yw wedi arddangos ei allu creadig- ol, y mae Efe yno hefyd; ac y mae yr athrawiaeth hon yn derbyn cym- meriad eglurach a mwy dilys oddi wrth ddarganfyddiadau astronom- yddiaeth. Y mae y meddylddrych o anfeidroldeb yn rhy ddwfn i allu dynol ei lawn amgyffred, fel y gor- fydd i bob un a geisia wneud hynny gyffesu. Gallwn ganfod eangder anfesurol, ond ëangder yw ag sy'n amgylchynedig gan ryw derfyn neu gilydd; a phe baem ond yn ystyried yr hyn sy'n passio drwy ein medd- yliau ein hunain, pan yn ymdrechu ëangu ein darfelydd fel ag i gyr- raedd at y meddylddrych o gyfnod anfeidrol, canfyddem ein bod yn gwneud hyn drwy ddarlnnio i ni ein hunain, yn gyntaf, un eangder anfesurol, yna, un arall uwchlaw hynny,—uu arall, ac un arall dra- chefn, mewn olyniad parhâus ac anorphennol. Dengys hyn an- sawdd terfynol eiu galluoedd medd- yliol, y rhai nad allant ffurfio dir- nadaethau ond trwy gymmorth pethau sy'n wrthddrychau y syn- hwyrau; a gwasauaetha hyn hefyd i ddangos y pwysigrwydd o astudio astronomyddiacth, er mwyn cyn- northwyo y meddwl i ífurfio golyg- iad mwy goruchel am y priodol- iaethau Dwyfol. Gallem siarad am anfeidroldeb, hyd yn oed pe difedd- iannid ni o ddarganfyddiadau as- tronomyddiaeth ; ond byddai ein dirnadaeth, am y briodoledd ddwy- fol honno, o angenrheidrwydd yn llawer llai bywiog, ac hefyd yn aneglur. Trwy gymmorth y wyddiant ddy- ddorol a rhyfeddol hon y dyrchefir ein hamgyffredion, o derfynau cyf- yng ein planed ein hunain, i eang- der anferthol y gyfundraeth blan- edol gyd â pha un yr unir ni, a thrachefn i bellder aruthrol y ser sefydlog, ac oddi yno drachefn i'r lleoedd hynny a elwir nebulse, y rhai sy'n llawer o filoedd, a degau o fil- oedd o fydoedd mewn cyfundraeth- au newyddion, mewn pellderau tu liwnt i allu ffugwrau eu cyfrif. Fel hyn, o rîs i rîs, yr ydym yn eangu ein golygiadau; ac er fod ein gallu- oedd meddyliol yn dechreu pylu ym mhell cyn cyrraedd y seren agosaf, ac wrth olrhain y dargan- fyddiadau hyn i'w terfynau pellaf, y maent yn dyrysu ac yn ymgolli, etto yr ydym yn sicr o ennill llawer, yn y fath ymarferiadau, tuag at gyn- northwyo ein hamgyffredio am ëangder diderfyn. Y penderfyniad ymarferol y deu- wn iddo yw,—os yw anian yn cyn- nwys y fath ëangder anrhaethol ac