Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 6. MEHEFIN, 1853. Cyf. III. "£* Cgmtattfjasatt iEgltogstg* Ymhlith yr amryw ragoriaethau a berthynant i'r Eglwys Sefydledig, nid y leiaf yw ei hymdrech diflino, i dclwyn y " newyddion da o lawen- ydd mawr " i gyrraedd pawb o bobl y byd. I'r diben hwn fe ífurfiodd o ddeugain i hanner cant o gymdeith- asau crefyddol, heb son am y rhai hynny sydd yn gyfyngedig i'r gwa- hanol Esgobaethau. O'r cymdeith- asau hyn, mae rhai er diwallu ang- henion ysprydol ein gwlad ni ein hunain; eraill ar gyfer y Trefedig- aethau Prydeinig, ac eraill er lles yr holl fyd Cristionogol a Phagan- aidd. Yn awr, ni a sylwn ar y rhai- mwyaf nodedig o'r cymdeithasau daionus hyn. Yr hynaf o honynt yw y " Gym- deithas er taenu gwybodaeth Grist- ionogol." Amcan hon yw cael Biblau a llyfrau crefyddol eraill am brisiau isel er lles y werin. De- chreuodd ei gwaith dros gan'mlyn- edd cyn ífurfiad y Gymdeithas Fibl- aidd Frutanaidd a Thramor, a bu o fendith fawr i Gymru dlawd, ym mhlitli eraill, yn yr amseroedd hyn- ny, trwy gynnorthwyo y Parch. Griífith Jones, Oífeiriad duwiol Llanddowror, i gael argraphiad ne- wydd o'r Bibl Cymreig, ar ol iddo lwyddo i ddysgu degau o fìloedd i ddarllen Cymraeg yn yr " Ysgolion Rhad Cylchynol." Yn y blynydd- oedd diweddaf, cyfrannodd y Gym- deithas hon yn helaeth tuag at sef- ydlu Esgobaethau newyddion mewn gwledydd tramor. A thrwy oífer- ynoliaeth hon, ynghýd a " chym- deithas y Llyfr Gweddi Gyffredin," y " Gymdeithas Fiblaidd Drindod- aidd," a "Chymdeithas Traethodau Eglwys Loegr," darperir llyfrau crefyddol yn helaeth ar gyfer tlod- ion ein gwlad. Yna y mae " Cym- deithas Ysgolion Gwladwriaethol" yn addysgu ieuengctid ein gwlad yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd, fel y gallont ddefnyddio y llyfrau da uchod, a chyflawni eu gwahanol alwedigaethau. Y mae y Gym- deithas er Adeiladu ac Adgyweirio Eglwysi yn cynnorthwyo i ddarparu lleoedd o addoliad i'r werin. Ac er cael digon o Weinidogion yn y gwahanol blwyfydd, mae " Cym- deithas Fugail-Gynnorthwyol," a Chymdeithas er ychwanegu Curad- iaid mewn lleoedd poblogaidd, yn gweithio yn egn'iol. Fel hyn deng- ys yr Eglwys ei gofal am drigolion Cymru a Lloegr. Ymdrecha hefyd daflu ei haden gysgodol dros Babyddion tywj'U yr Iwerddon, a thynnu iau orthrym- mus y Pab oddi ar eu gwarrau. I'r diben hwn y flurfiwyd Cymdeithas Wyddelig Llundain, a Chymdeithas Wyddelig Eglwysig. Trwy fendith y Goruchaf ar eu llafur, mae mil- oedd y blynyddoedd hyn yn torri