Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 7. GORPHENHAF, 1853. Cyf. III. ä?r lEgltogs gn g çriẃ&tgaetîjatt örtttauatìtòr. Y mae yn hyspys i'r rhan fwyaf o'n darllenwŷr fod tiriogaethau ëang, dan lywodraeth Prydain Fawr, ym mhum dosparth y byd,—yn Ewrop, Asia, AíFrica, America, ac Awstra- lia,—fel nad yw yr haul byth yn machludo arnynt oll ar yr un amser, a bod eu trigolion lliosog yn gyn- nwysedig o Baganiaid a Mahom- metaniaid, o Babyddion a Phro- testaniaid, ymfudedig o'r ynysoedd Prydeinig. Er fod dyledswydd ar yr Eglwys i hyspysu dirgeledigaethau yr Ef- engyl i holl drigolion y ddaear (yr hyn hefyd y mae yn ymdrechu ei wneuthur), etto, eglur yw ei bod dan rwymau neillduol i ddarparu moddion gras i'r Trefedigaethau Brutanaidd, yn y rhai y preswylia cynnifer o'n cyd-ddeiliaid mewn ufudd-dod i'n Brenhines raslonaf, a'n bwriad yn awr yw gosod ger bron ein darllenwýr hanes ychydig o'i gweithrediadau ynddynt. A chan na chaniattâ ein gofod i ni fyned ymhellach yn ol, ni a gyfyng- wn ein hunain at y deuddeng mlyu- edd diweddaf, ymha amser y mae eu hanes yn dra dyddorol, ac yn brawf anwadadwy, fod bendith yr lôr ar ei Eglwys. Yn ystod y deuddeng mlynedd diweddaf, mewn ychwanegiad at yr Esgobaethau oedd ynddynt o'r blaen, fe sefydlwyd cynnifer a phymtheg o Esgobaethau newydd- ion, sef Melbourne, Adelaide, New- castle, Tasmania, a Zealand New- ydd, yn Awstralia ; Colombo a Victoria, yn Asia; Antigua, Guiana, Fredricton, Rupert's Land, a Mon- treal, yn America; Capetown a Sierra Leone, yn Affrica; a Gibral- tar, yn Ewrop. Yr oedd y draul i sefydlu yr Esgobaethau hyn vn 240,000 punt, &c, y rhai a gasgl- wyd trwy roddion gwirfoddol yn y cyfamser. Y canlyniad o hyn oedd ychwanegiad yn nifer yr Öífeiriaid 0 274 i 502, yr hyn sydd bron ddau cymmaint o rifedi. Nid ychydig o waith oedd hyn i'w gyflawni mewn gan lleied amser a deuddeng mlyn- edd, a diau y dylem fendithio yr Arglwydd am y llwyddiaut neillàu- 01 â'r hwn y coronodd Efe ymdrecli- iadau ei Eglwys yn ystod yr amser byr hwn. Trwy hyn fe gynnydd- odd rifedi yr Offeiriaid yn Van Diemen's Land, o bedwar ar bym- theg i bedwar ar ddeg a deugain ; yn Zealand Newydd, o ddeuddeg i ddeunaw ar hugain; yn Adelaide, o bedwar i chwech ar hugain; yn Melbourne, o dri i dri ar hugain; ac yn Cape Town, o bedwar ar ddeg i un ar bymtheg a deugain. Felly, fe fu ychwanegiad o ddim llai nâ 145 o Offeiriaid yn y pum' tiriog- aeth hyn o fewn yr ychydig flyn- yddoedddiweddaf. Önd ercymmaint a wnaethpWyd, o ba un nid yw hyn ond talfyriad, nid ystyria yr Eglwys