Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 11.] TACHWEDD, 1850. [Cyfbol iv. Crtst, Sbptan gt (Sglíngs. Yr ydys yn llunio y sylfaen a'r adeilad ill dau yn ol rheol celfyddyd. Yn gyntaf, y mae y portread ym meddwl yr adeiladydd, ac yna gosodir yr adeilad i fynu. Yn y Sylfaen a'r Adeilad ysprydol, yr oedd y gel- fyddyd yn Ddwyfol, nid dynol: ni ddyfeisiwyd monynt gan feddwl dyn, ond gan Dduw. Ni allai dyn, yr hwn a syrthiasai 01 sefyllfa gyn- taf o ddimweidrwydd, feddu ar sylfaen ynddo ei hun; Duw, yn ei ddoethineb anfeidrol, a drefnodd Un arall iddo. Yr oedd y ffordd, a gyminerth Efe, yn un ragorol; y Gair tragywyddol a wnaethpwyd yn gnawd; dwy anian a gyfarfyddodd mewn un Person; sef un ddynol, yn yr hon yr ufuddhâodd ac y d'ioddefodd Efe trosom ni; ac un Ddwy- fol, yr hon a briodolodd werth anfeidrol i'w ufudd-dod a'i ddîoddef- iadau. Yn y rhai hyn rhoddwyd perffaith iawn am bechod, pwrcas- wyd gras a gogoniant i bechaduriaid, rhoddwyd ger ein bron esampl anghydmarol o sancteiddrwydd ac ufudd-dod; a threfnwyd i ni Ys- pryd Glân i'n bywhâu, fel y dilynem Ef. Dyma'r Sylfaen, ar ba un y gall dyn syrthiedig gael ei adeiladu i gyfiawnder a bywyd tragywyddol. 0 oludoedd o ddoethineb ! Rhy- feddodau o gariad! Gwir yw, nad yw dynion anianol a chnawdol, tra y parhânt felly, ddim mwy addas fel personau, nâg ydyw gwair a sofl, fel athrawiaethau, i gael eu hadeiladu ar y Sylfaen hon; ond yr un ddoethineb, a osododd y Sylfaen, a adeilada y tŷ; anfonir yr Yspryd Glân i weithredu flỳdd mewn dynion, ac felly i'w cymhwyso i gael eu gosod ar y sylfaen: am hynny y dywed yr Apostol, fod yr holl Adeilad wedi ei "chymmwys gyd-gyssylltu";—pob rhan o'r Adeilad wedi ei huno yn gymmwys ac yn gyttun â'r Sylfaen, ac â'r rhannau eraill o honi. Y mae yr Adeilad yn cyfatteb i'r Sylfaen; a'r ddwy i'r cynllun yn y meddwl anfeidrol. Llunio rhai'n oedd un o'r meddyliau mwyaf a ddaeth eriôed i galon Duw; a'u cwblhâu oedd un o'r gweithredoedd mwyaf a gyflawnwyd eriôed mewn amser! Rhwng y Sylfaen a'r Adeilad y mae rhywbeth sydd yn eu huno ac yn eu rhwymo hwy ynghýd: rhwng Crist a chredinwŷr nid yw y rhwym- yn yn un cnawdol, ond yn un ysprydol; y maent hwy wedi eu huno ynghŷd drwy fíydd a'r Yspryd Glân. Ffydd yw un rhwymyn.— " Wele, yr wyf yn gosod yn S'ion ben-congl-faen, etholedig, a gwerth- CYF. IV. m