Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ht egHttstfgfefr " LLWYDDED Y EHAI A'TH HOFFANT." öTarínö Buto. " Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag attom ni; oblegid danfon o Dduw Ei uniganedig Fab i'r byd fel y byddom fyw trwyddo Ef." 1 loan iv. 9. Pe deuem ar ein taitb a'n pererindod trwy'r byd hwn at balasdy mawr, gorwych ac ardderchawg, diau y gofynem, pwy a'i hadeiladodd, a phwy sydd yn preswylio ynddo ? A phe dywedai rhyw un wrthym, "Oh, y coed, a'r cerrig, a'r calch a ymwnaethant trwy ryw ddamwain neu gilydd yn balasdy gwych, fel y gwelwch chwi ef, ac am y preswylydd, nid oes ond dieithriaid fel chwi ac eraill yn preswylio ynddo ar eu tro." Pe hyn, neu'r cyffelyb, fyddai yr atteb, y mae yn sicr, y barnem yr atteb- ydd yn wallgofus, ac yn annheilwng o'n sylw ym mhellach; canys y mae yn eglur, nad allai y coed a'r cerríg wneuthur tŷ o fath yn y byd o honynt eu hunain. Dywedem hefyd, y mae yn ddiamheuol, mae gwr mawr, o ran cyfoeth a gallu a gwybodaeth, a wnaeth y ìlysdy hwn, canys y mae mawr- edd y tý, ac addasrwydd ei berthynolion, yn egluro hynny. Gadewch i ni fyned iddo;—yn awr edrychwch ar y tý, o'i nen i'w drothwy, a gwelwch, fel y mae pob rhan o hono yn egluro gallu, doethineb, a daioni ei wneuthurwr, mor amlwg