Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y FRYTHONES. MAI, 1881. [YTRACH yn " newydd ar y ddaear " ydyw fod merched ieuainc sengl yn ymgyflwyno, ac yn cael eu derbyn i'r gwaith a'r meusydd cenadol; ac fel y rhan amlaf o newydd-bethau, y mae y cyhoedd i fesur yn rhanedig yn eu barn o berthynas i'r priodoldeb a'r buddioldeb o hono. Lluosocach o lawer yr un pryd ydyw plaid y rhai a edrychant ar y diwygiad hwn fel un o arwyddion dyddiau gwell—dyddiau pan y gellir dywedyd ynddynt, " hyn yw y peth a ddywedwyd trwy y pro- ffwyd Joel, * A bydd yn y dyddiau diweddaf (medd Duw), y tywalltaf o'm hysbtyd ar bob cnawd; a'ch meibion chwi a'ch merched a bro- ffwydant.' " Y mae eglwys Crist ar y ddaear, ac yn arbenig felly yn Nghymru, yn hwyrfrydig i gydnabod mai gwawr diwygiad ydyw. Y mae lluaws o'r brodyr, debygid, wedi arfer meddwl mai iddynt hwy yr ymddir- iedwyd yr holl waith o ddwyn y byd yn ol at Dduw, a dysgu pawb am dano, ac am ei iachawdwriaeth, felly nad oes i'r merched, yn gosp am wendid y wraig gyntaf, ran na chyfran yn y llafur cariad, a'r gwasanaeth hyfryd hwn ; a theimlant yn bur anmharod i gael eu hargyhoeddi o'u camfarn, hyd yn nod gan ysbryd y gwirionedd ; yr un ysbryd, boed sicr, ag y bydd yn rhaid wrtho er gwneuthur eu cenadwri hwythau tuag at ddynion yn nerthol ac achubol. Ond gan nad pa un—gan nad pa mor anmharod y teimla rhywrai i dderbyn llafurwyr newyddion i winllan Crist, y mae y pen llafurwr mawr ei hun yn ymddangos yn dra boddlawn iddynt, a sel ei fendith yn cael ei rhoddi yn bur eglur ar eu llafur. Y mae yn dyfod yn amlycach o hyd, fod Duw yn dewis " ffol bethau y byd, a gwan bethau y byd," i wasanaeth ei deyrnas, " fel y gwaradwyddai y doeth ; ion." Nid hefyd oblegid fod merched ryw lawer yn ffolach nag ereill, yn feibion a gwýr, ond y mae ystyr yn ddiau, yn arbenig yn y sefyllfa hon ar addysg a dadblygiad meddyliol y rhyw fenywaidd, yn yr hon y maent yn wanach, ac oblegid hyny, yn anmharotach i ym^ gymeryd ag anhawsderau meusydd cenadol o lafur; ac eto, er y diffyg hwn ynddynt, ymddengysyn annghamsyniol eu bod yn cael eu galw iddo, ac yn profi eu hunain yn llwyddianus ynddo. Y mae genym y mis hwn y pleser neillduol o gyflwyno i'n darllen- wyr ddarlun o'r chwaer ieuanc, Hannah Jones, Penybont, Sir For- ganwg, un o'n cydwladwyr, y sydd, fel y dysgwyliwn y gŵyr y rhan amJaf o'n darllenwyr, wedi ymgyflwyno i'r gwaith cenadol yn China, mewn cysylltiad â'r genadaeth a adnabyddir fel y China Jnland Cyf. 11. Rhif. 5.