Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Frythones. GORPHENAF, lS8l. DARLUN HANNAH JONES. |N nglyn a'r darlun o'r c h w a e r H A N N A H J o n e s, y r hwn,gan na ddaeth i law mewn pryd i'w roddi o flaen ein sylwadau yn rhifyn Mai, ac na fynem i'n chwiorydd anghy- nefin â'r cylchgronau Seisnig fod hebddo, a gyflwynwn iddynt y mis hwn; ni a rodd- wn yma ychydig o hanes gweithred- iadau a llwyddiant y China Inland Mission—y Gymdeithas yr aeth ein chwaer allan dan ei i;:.:s nawdd. Cymerwn ein || hadroddiad o'r China's Millions, — cylchgrawn arbenig y Genadaeth, a dyfynwn, i'r amcan o gyffroi meddwl puraidd ein darllenwyr i gydymdeimlad a'r llafurus gariad a ddangosir gan ein brodyr a'n chwiorydd Crist'nogol tuag at enw y Gwaredwr yn y wlad bellenig ac eilunaddolgar hono. Er eglurhad, gallwn ddweyd, mai cymeryd teithiau yma a thraw drwy y wlad, i werthu Beiblau a thraethodau, ac i siarad a'r bobl, pregethu iddynt yr Iesu, a'u dysgu am dano, ydyw ffurf y gwaith a wneir gan lawer o'r gweithwyr hyn yn y winllan ; a sefydlir gorsafau Cenadol, agorir ysgolion, a chor- phorir eglwysi yn mhob lle y ceir ynddo agoriad a mesur o dderbyn- iad. Y mae beílach dros driugain o'r cyfryw orsafau ac eglwysi yn y wlad. Y mae y gwrthwynebiad yn gryf, pa fodd bynag, a'r erlidig- aeth yn llym mewn llawer man. Gofynir gan rai, "A yw gwibdeithiau cenadon y Chiua Inland Cyf. n. Rhif. 7.