Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RYTHONES. Cyf. II. IONAWR, 1880. Rhif. i. fp j|pghfyäile$ ^ttittîiîgîaa* JDARLLENYDD ! edrych eto, sylla yn fanwl ar y darluiì sydd yn ein hysgrif. Wrth edrych arno, byddi yn edrych ar wynebpryd hybarch y fwyaf ddefnyddiol dros Grist o'r holl lu o wragedd rhagorol a fuont yn "gweini" arno, o ddyddiau "y gwragedd o Galilea" hyd heddyw. Gan» wyd hi i sefyllfa fanteisiol nodedig i allu bod yn ddefnyddiol, a gwnaeth y defnydd goreu o'i holl fanteision. Hanodd o du ei thad a'i mham, Iarll ac Iarlles Ferrers, o deuluoedd mwyaf henafol ac urddasol y deyrnas hon; i'e, yr oedd gwaed teuluoedd Breninol Prydain a'r Cyfan- dir yn rhedeg yn ei gwythienau, ac o'i thu ei hun, yn gystal a'i phriod, yr oedd yn feddianol ar gyfoeth mawr. Ganwyd hi yn 1707. Nid arbedwyd unrhyw draul tuag at roddi iddi bob addysg a'i cymhwysai i addurno y cylch cymdeithasol uchel yr arfaethai ei rhieni iddi droi ynddo. Yr oedd yn brydferth nodedig o gorfî, ac yn brydferthach o ysbryd. Dysgyblwyd hi yn ofalus yn holl ddefodau y cylch rhwysg* fawr didduw hyny, wrth draed ei Gamaliel enwog, Arglwydd Ches- terfìeld. Ond nid meddyliauei rhieni oedd meddyliau Duw wrth beri iddi gael ei chaboli â holl ddysgeidiaeth a choethder cymdeithasol "*•. uchaf y byd hwn. Y Duw a barodd i'r Hebrewr ieuanc Moses gael ; ei ddysgu yn u holl ddoethineb yr Aipht," a barodd hefyd i'r arglwyddes ieuanc, Selina Hastings, gael ei dwyn i fyny yn holl "ddoethineb Aiphtaidd" breninllys a chylchoedd uchaf y deyrnas hon, a'r naillfel y Hall er ei chymhwyso i weithio allan ei arfaethau dwyfol Ef ei hun. Yr oedd llygad a llaw Duw arni er yn eneth ieuanc. Pan tua naw nilwydd oed, parodd chwilfrydedd plentynaidd iddi ddilyn cynhebrwng geneth tua'r un oed a hi i'r fynwent. Tra yn sefyll wrth y bedd hwnw