Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y FRYTHONES. AWST, 1880, (YSGWYLIWN mai yr argraff uniongyrchol ar feddyliau ein darllenwyr wrth edrych ar y darlun o flaen ein hysgrif a fydd, " Wel, dyma wyneb hawddgar!" Y mae 501 portreadu llawn ddigon o benderfyniad a hunanddibyniad hwyrach, ac eto y mae yn hawddgar! Eiddo pwy ydyw? Pwy oedd y 'Chwaer Dora' y mae yn ei gynrychioli ?" Yr ydych yn hollol yn eich lle, chwiorydd; y mae yn wyneb anwyl; y mae yn siarad am ewyllys gref—anhybtyg felly weithiau, ac eto y mae yn wyneb a swyna bawb a'i gwel; ac y mae yn ein bryd ddilyn esiampl y cyfnodolion Saes'nig am y misoedd diweddaf, a dadguddio i'n darllenwyr ychydig o weledigaeth hanes a chymeriad yr wrones y mae yn ei gynrychioli. Cyp. 11. Rhif. «.