Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Cyf I. Rhif 4. EBRILL 1891. Pris Dwy Geiniog. Y STREIC YN DURHAM, Un o Siroedd gogledd Lloegr yw Durham ; mae Northumberland rhyngddi a'r gogledd; Cumberland a Wesfcmoreland rhyngddi a'r gor- llewin ; York rhyngddi a'r de, a mor y gogledd (North Sea) o'r tu dwyrain. Nid yw yn Sir fawr ei harwynebedd, ond y mae ei thrigolion fel locustiaid o ran amldra ; yr hyn yw Morgan- wg yn mlith Siroedd Cymru yw Durham yn mhlith Siroedd Lloegr, a rhwng yr oll o honi y mae yn anfon unarddeg o aelodau i'r Senedd, o'r rhai y mae wyth yn rhyddfrydwyr, ac aeth pump o honynt i fewn yn ddiwrthwynebiad, yr hyn a ddengys hefyd, nad yw yn anh^byg i Morganwg o ran eihegwyddorion gwleidyddol. Mae yn amheus a oes glowyr yn rhywle yn Doriaid. Yn mhlith glofeydd mawrion y Sir y mae yr un a elwir Silksworth, yr hwn sydd yn perthyn i ardalydd Londonderry. Heblaw fod yr ardalydd yn berchen ar y tir a'r gwaith, efe hefyd bia y tai lle y mae y gweithwyr yn byw, y rhai ydynt yn llu mawr. Aeth yn Streic yn y gwaith hwn ychydig ôsoedd yn ol o herwydd rhyw ymgais o eiddo'r ardalydd i ddirymu a chwalu undeb y gweithwyr. Mae'r Streic erbyn hyn yn cael ei hymladd gyda'r llymder a'r creulondeb mwyaf, a defnyddia'r ardalydd bob arf o fewn ei gyrhaedd. Mae yno er ys wythnosau bellach lu o'r dynion hyny a elwir emergency men (anrheithwyr cyfreithiol) dan nawdd byddin gref o heddgeidwaid yn tori drysau y tai ac yn taflu allan i'r heol wragedd a phlant i ymdaro gore y gallont. Derbyniwyd llawer o honynt i'r Capeli ymneillduol i gael cysgod, ac i'r ysgoldai a'r ystafelloedd cyhoedd- us ; gosodir coed i fynu gydag ochrau yr heolydd yn gysgod i'w celfi y rhai a orweddant ar eu gilydd yn bentyrau didrefn, ac nid oes neb yn canfod goleuni yn y cwmwl pan ydym yn ysgrifenu. Na feddylied neb fy mod yn beio yr ardal- ydd am arfer ei awdurdod, nid yw yn gwneud dim wrth droi y gweithwyr o'u tai ond yr hyn mae miliwnau Prydain Fawr yn ganiatau sydd yn iawn; oes y mae ganddo gystal hawl i droi y gweithwyr o'u haneddau ag sydd gan unrhyw ddyn sydd yn dal ty i droi ei letywr dros y drws, yr un hawl, a mwy yn wir, nag sydd gan y landlord i droi y tenant o'r tyddyn, canys gellir dywedid mai efe wnaeth y tai, tra mai Duw wnaeth y ddaear. Ond yr wyf yn beio y trefniant sydd yn gadael y fath awdurdod dros fywyd ac amgylchiadau, heddwch a ehysuron pobl, yn llaw un dyn, a hwnw yn fynych heb fod y tyneraf ei deimladau, na chwaith yn gyf- rifol i neb. Ie yr wyf yn gofyn yn enw synwyr cyffredin a Christionogaeth yr hon sydd yn y byd er ys pedair canrif ar bymtheg, Pa hyd ? Gall na fydd gair o hanes y teulu yn anyddorol,hanant odeulu y Stewart Ysgotland. Wedi i un o hynatìaid }r teulu wario ei oll eiddo ar oferedd, gwnaeth Iago L, ef yn bendefiig Gwyddelig, a rhoes iddo lawer o diroedd yn yr Iwerddcn ac mewn rhanau eraill o'r wlad, yn gystal yn Nghymru ag yn Lloegr, o'r rhai wele ryw fras gyfrif, yn— SWTDt». ERWAU. RHENT. Down 23389. £•20328. Durham 12823. 56825. Trefaldwyn 7399. 4330. Meirionydd 2685. 1752. Londonderry 1922. 1476. Donegal 1702. 1188. Eu prif gartref oedd Mount Stewart, yn Down, ac yr oedd sedd yn y Senedd dros y Sir hono yn fath o dreftadaeth i'r teulu; Castlereagh oedd y teitl gwyddelig, a dan yr enw hwnw y byddent yn myned i'r Senedd. Yr oedd y Castlereagh a eisteddai yn y Senedd 1800, ar ddechreu ei oes yn rhyddfr^-dwr mawr, yr oedd yn addaw cefnogi pob gwelliant a diwygiad, ond pan gyrhaeddodd ei amcan efe a dorodd ei holl addewidion i'r bobl, a chafodd ei dâl gan yr awdurdodau. Gwnawd ef yn G-eidwad y Sel Fawr, yn ben-trysorydd ac yn ysgrifenydd yr Iwerddon, swyddi breision i gyd, a phan yn dal y swydd ddiweddaf y llwyddodd i lwgr- wobrwyo y Senedd Wyddelig i uno yr Iwerdd- on a Lloegr.