Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OWR8 Y BYD Cyf I. Rhif 7. GORPHENAF. 1891, Pris Dwy Geiniog. TREFN O'R TRYBLITH. Hoff iawn ydyw'r byd o amrywiaethau, ond araf iawn y cydwedda'r meddwl dynol ag athrawiaethau newyddion. Blina'r corph ar orraodedd o unrhywiaeth, ond y meddwl ni flina byth ar goleddu hen athrawiaethau, byddent iaeh neu afiach ; glynir wrthynt un- waith eu credir hwy. Ac am y rheswm hwn, anhawdd iawn yw dwyn i fewn unrhyw egwyddor newydd i gymdeithas. Mae hyny yn gofyn amser. Cymerwn Home Rule fel engraifl't, erna chynwysaun egwyddor newydd, ceir ynddo er hyny syniadau ddigon croes i'r rhai a goleddir gan ddynion yn gyffredin, fel ag i beri i'w lwyddiant fod yn araf ac i oedi am amser maith ei gyflawn dderbyniad. Unwaith y caiff unrhyw syniad—bydded resymol neu afresymol—le tawel yn y meddwl dynol, glynir wrtho gyda gwydnedd ag sydd yn ymddangos fel yn amrywio gydag oed y syniad. Dym- chwelodd Galileo lawer o syniadau a goleddid yn ei amser ef, un o ba rai sydd yn nodedig am mai yr ysgrifenwr mawr Aristotle a roddodd fodolaeth iddo. Distrywiodd Galileo drwy brofeg ar dwr Pisa un o syniadau Aristotle mewn perthynas i ddysgyrchiad cyrfF tua'r ddaear. Cafodd athrawiaeth newydd Galileo, er iddo brofi ei chywirdeb, wrthwynebiad nid bychan. Ni fynai'r bobl ei gredu. Ac am ddynistrio camsyniadau cafodd Galileo erled- igaeth drom hyd ei fedd. Y mae Galileo wedi difianu, ond erys ei enw tra erys sylfaen fawr gallofyddiaeth, yr hon a ddygodd i oleuni. Nid ydyw y byd fymryn gwell heddyw. Ni fyna rhai gredu fod y tir yn eiddo y bobl. Nid yw y bobl eu hunain yn hollol gredu hyny. Ond daw amser, a hyny heb fod yn faith, pan y gwelant fod y syniad yn llythrenol wir. Yn bresenol credant mai am fod cwrs y byd wedi arfer cymeryd y llinell grwca bresenol, fod yn rhaid iddo wrth ryw ddeddf naturiol, ond dirgel- aidd, ddilyn yr un llinell o hyd. Ychydig feddyliant mai deddfydiafol ei hun ai ceidw ar y llinell hon. Dywedir hefyd am fod y gyfundrefn bresenol yn un hen, fod yn rhaid iddi barhau mewn grym; ond a chaniatau y bydd iddi barhau hyd ddiwedd amser, nid yw ei bod yn hen yn un rheswm dros hyny. Y gwir y w. er ei bod yn ddigon hen i farw, nid yw y gyfundrefn bresenol ond cymhariaethol ieuanc, am fod y byd ei hun yn ei fabandoi eto. Nid yw y dydd ond wedi dechreu gwawrio ar ein daear ni mewn ystyr gymdeithasol, grefyddol, a gwyddonol ; ni welwyd eto ond y pelydrau cyntaf yn ymddangos drwy niwl y boi-e, a gwyddom yn dda na chwyd haul mawr hanes ein daear i'w entyrch, o ran amser beth bynag, am filiwnau o flynyddoedd. A chaniatau fod pum mil o flynyddoedd wedi myned heibio er yr hanes cyntaf am gymdeithas, nid yw byny ond fel dim i'w gymharu a'r miliwnau sydd yn ol. Mae yn beth hynod iawn pan ystyrir gymaint o wrthwynebiad mae socialism yn gael yn bresenol yn yr anmharodrwydd sydd yn meddwl cymdeithas i dderbyn syniadau new- yddion, rhai a ddysga socialiaid ar bynciau cymdeithasol. Ÿn y wlad yn mhell o dwrw ein dinasoedd, nid oes gan bobl ond amcaniaeth wan iawn o'r trueni mawr, a'r tylodi erchyll a geir yn ein trefydd mawrrion, nac ychwaith am y gorwych- der eang a'r gwa^traff enbyd o roddion natur, ac hyd yn nod o ddynoliaeth ei hun fel y gwelir hi yno. Y mae yr olwg ar gymdeithas yn rhwym o yru unrhyw un sydd ag ychydig o deimlad yn ei fynwes, a gronyn o synwyr yn ei ben i ofyn ai rhaid yw i hyn fod. A ydyw yn hanfodol angenrheidiol er lles a llwyddiant cymdeithas mewn moes, mewn crefydd, ac mewn celfyddyd, fod yma y fath gyfoeth neu dylodi, neu y ddau ? A.i anmhosibl ydyw cynydd mewn gwareiddiad heb gyfoeth a thylodi ? Y mae cymdeithas heddyw mor amrywiog, mor ddyrus, ac mor dywyll yn ei gweithrediadau fel ag i wneud llywodraethu yn ngwir ystyr y gair yn beth anmhosibl. Nid oes gan lywodraeth un amser ond y cysylltiad gwanaf a llafur mawr y genedl. Y mae cwrs bywyd cenedl bron yn anibynol ar ei llywod- raethwyr. Pwy ynte sydd yn teyrnasu ? Y mae yn rhy amlwg mai anrhefn hollol a deyrnasa heddyw. Nis gellir gwadu hyny.