Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWES Y BYD. Cyf [. Rhif 8 AWST. 1891. Pris Dwy G-einiog. Y DIWEDDAR D. ONLLWYN BRACE. NODION COFFADWRIAETHOL AR El OL GAN El GYFEILLION. Bu farw wedi wythnos o gystudd. yn ei breswylfod, yn Aberdare, Dydd Sul, Mehefin 28ain, 1891, yn 43 mlwydd oed. Y mae ei weddw a phedair o rai bach, yu niíhyd a'i fam oedranus, a br dyr a chwiorydd, ar ei ol yn eu galar. Cafodd angladd tywysog, a chladdwyd ef yn nghladdfa gyhoeddus yr ardal. Anwyl Di>A.Rixt;îíYDD,—Gwyddom yn dda nad oes achos nac angen i ni ymddiheirio am gymeryd rhan helaeth o GrWas Y Iìyd i arllwys ein teimlailau gydag eraill ar ol y caredig, y tyner, a'r diniwaid U. Oallwyn Brace; canys credwn. er y cyfan, nad oedd yr un yn mhlith llu mebion athrylith ag oedd wedi cerfiio ei enw yu ddyfnach yn nheim- ìadau òa ei gyd-genedl nag y iiwnaeth efe. Pan daenwyd y newydd blin am ei farwolaeth sydyn, nid yn unig tar- awyd y wlad a syndod, ond hefyd, fe dorwyd archoll ddoi'n yn nheim- lad pawb a'i adwaenai ; collwyd dagrau ar ei ol, a diau y teimlir chwith- dod dros hir amser am ei golli. Yr oedd cylch ei adnab- yddiaeth a'i gyfeillion yn helaeth iawn, credwn yn fwy felly nag eiddo nemawr i lenor arall yn Nghymru; a digon rhesymol priodoli hyny i'r ffaith y nodweddid ef a'r fath wyleiddra, tynerwch, ag hunan- ymwadiad ncillduol, fel yr oedd enill rhywrai o'r newydd i'w hoffi mor uaturiol a hawdd iddo a threigliad y fl'rydiau màn i wely y mor. Nodwedd amlwg a chymeradwy ynddo oedd, y galloi ymddifyru yn hamddenol a boddhaus yn nghauol twr o blant bychain, a theimlai mor gartrefol yn eu mysg a plîe mcwn dadl ar gwestiwn pwysig gyda'r ath.onydd a'r cryf ei grebwyll; teimlai v dysgedisí hefyd yn well o'i jjyfeillach, canys galluog oedd, acheb fod yn ail i neb ar brif gwestynau y dydd. Gan mai mewn teulu o amgylchiadau cyffredin y cafodd ei eni—mewn pentref gwlediü:—yr Onllwyn, oddiwrth ba un y cafodd yr enw '• 0>*llwyn," pan brof- odd ei hun yn llenor, ni chafodd nernawr i ddim manteision addysg pan y1 blentyn ; canys, pan oedd tuag wyth mlwydd oed, bu raid iddo ef fel plant gwcith- wyr yn gyffredin yr adeg hono.—pan nad oedd bwrdd ysgol,—i fyned i weithio er enill ychydig i fjynorthwyo y teulu, oecld erbyn hyn yn lluosog. Oedran pur ieuanc onide, oedd wyth mlwydd oed i ddcclireu gweithio er enill ei damaid ? Eto, yn ol tystiolaeth ei fam oedranus, teimlai }-ndra llawen ei fod wedi dech- reu enill arian i helpi yr hon oedd mor anwyl ganddo hyd ei fedd ; ie, a digon hawdd ciedu hyny on'd darllen ei gân doddedig. " Ni welais i neb fel fy mam." Y mae ei gerddi yn werth eu pwrcasu pe ond yn unig er mwyn y penillion yma. Y gwaith cyntaf gafodd oedd cario llythyrau o Ystrad- gynlais i'r Onllwyn ; ac enillai swllt y dydd