Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

OWRS Y BYD. Rhif 16 EBRILL. 1892. Cyf II MR. TOM STEPHENS, (Telorydd). WRTH olrhain banes plcntyn athrylith, nid yn y palas, ond, fcl rheol, yn y bwthyn y eeir gafael yn ei gryd ; a hwyrach mai blwch neu fasged fydd y cryd hwnw. Felly gwrth- ddrych ein hysgrif, un o dànau pereiddiaf Gwlad y Gân, un o'r tonau mwyaf brigwyn yn " Mor o gân yw Cymru i gyd," 'ie, un o r arweinyddion cerddorol mwyaf galluog a Hwyddianus a fagodd Cymru. Ganwyd Mr. Stephens yn hen ardal enwog Brynaman, 8ef ardal enedigol Watcyn Wyn, G-walch bibrill, Gwydd- erig, D. W. Lewis. F.T.S.C, &c. yn y flwyddyn 1855. Euwau ei rieni oeddynt Stephen a Gwenllian Thomas y rhai a symudasant i Aber- dar pan oedd tua thair oed ; ac yno bamodd ei gydchwar- euwyr a'i gydysgolheigion mai hawddach oedd ei nabod wrth yr enw Stephens., sef enw cyntaf ei dad, nag wrth ei gyfenw, Thomas ; yntau yn gwybod mai " ofer dadl wedi barn," ac arddelodd y cyfenw " Stephens" hyd heddyw. Bu Mr. Stephens mor ffodus pan yn blentyn a chael yr ysgolfeistr goreu a mwyaf gwladgarol a welodd Cymru erioed i'w hyfforddi yn ngrisiau cyntaf addysg, sef yr anfarwol Mr. Dan Isaac Davies, B.Sc, yn cael ei gynorthwyo gan y Mri. T. Marchant Williams (bargyfreithiwr) a Bhys Williams (cyfreithiwr, yn bresenol). Pan yn ieuanc, iawn canfyddodd yr athrawon adnoddau y cerddor yn " Tom bach," ac un diwrnod canodd " Cwyn yr Amddifad" yn nglyw ei feistr a'i gydysgolheigjon nes oedd y dagrau yn llifo dros ruddiau ei feistr ; ac o hyny allan efe oedd y pet; a phriodola Mr. Stephens heddyw ei fuddugoliaethan a'i lwydd- iant i'r gefnogaeth a'r cynorthwy a gafodd gan êi athrawon. Y tro cyntaf y daeth ei enw i'r cyhoedd oedd oddi ar lwyí'an Eisteddfod Alban Elfed, Aber- dar, pan gipiodd y llawryf oddi ar 23 o gyd- ymgeiswyr wrth ganu y Solo Alto, a chafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniad, Dr. Parry. Ar ol hyn, gwelid ei enw yn fynych, fynych yn nglyn a'r Eisteddfodau fel buddug- wr, a daeth pet Mr. Dan Isaac Davies yn bet yr Eisteddfodwyr. Er yn llafnrio yn gaìed yn ngholuddion y ddaear,a hyny yn ieuanc. yr oedd cerdddor- iaeth mor naturiol iddo fel y daeth yn feistr ar offerynau cerdd yn fuan. yn arweinjdd alto Côr Caradog, ac yn is- arweinydd y côr wedi hyny dau arweiniad Mr. Rhys Evans. Drwy ei lais melod- aidd a'i ddyí'albarhad daeth yn seren loew yn ffurf'afen Cerddoriaeth, yn arweinydd String Band enwog Aberdar, yn wir, pan gìywsom ef yn tynu ffrwd o beroriaeth allan o grwth a dau o dànau y crwth yn eisiau, ni ryfeddem i Meurig Aman ddweud mai efe oedd y model perffeithiaf o'i hen arweinydd, Caradog. Yn y flwyddyn 1878. symud- oiid i Gwm Rhondda, i fod yn arweinydd y gân yn Bethania, capel yr Anibyn- wyr; ac yma y ff urfiodd ei barti o leisiau gwrywaidd bydenwog. Yr adeg hon, yr oedd pedairpunt yn wobr go lew mewn Eisteddfod, i barti gwrywaidd, ond erbyn heddyw, deugain punt yn aml; a gellirpriodoli y cyfnewidiad. hyn iraddau mawr i Mr. Stephens a'i barti, sef y " Rhondda Male Voice Party." Yr oedd parti " Tom" mor dda nes tynu eraill ar ei heithaf allan, a'r canlyniad fu i'r lleisiau gwrywaidd gael braidd y prif sylw yn ein Heisteddfodau, a'r wobr yn chwyddo, with gwrs. Yn Nghwm Rhondda, cafodd ein harwr