Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhip 23 TACHWEDD, 1892, CyfII CYNGRAIR LLAFUR 1891, A gynhaliwyd yn Neuadd Westminster, Llundain, flwyddyn i'r mis yma. Mr. David Dale, Cadeirydd; Mbi. W. Abeaham, A.S.; G. Balfoub, A.S.; T. Bubt, A.S.; A. Hewlett ; E. Teow ; Y Gwie Anrhydeddus A. J. Mundella, A.S.; Syr J. E. Goest, Q.C, A.S.; Y Gwir Anrhydeduus Leonard Cocbtney, A.S.; Mei. M. Adstin, a J. Maddsley. Mri. G. Drage, J. Burnett, a F. V. Hornby, Ysgrifenyddion. Addawyd i gyfeillion o'r glofeydd y cawsai yr Adroddiad sydd yn canlyn ymddangos yn Nohwrs y Byd. Blin genym na chafodd oleu dydd yn gynt; ond credwn y profa y nddyddorol i filoedd eto, yn neillduol Glowyr Dosbarth y ölo Careg. Awdurdodwyd y Cyngrair hwn gan Dy y Cyffredin i chwilio allan sefyllfa gweithwyr yn ngwahanol feusydd llafur ; ac ar yr achlysur penodwyd y cyfnill Mr. Enoch Rees, Brynaman i roddi tystiolaeth o flaen y cyfryw ar ran Dosbarth y Glo Careg, Deheudir Cymru, i ba un y mae Mr. Rees wedi Uanw y swydd o ysgrifenydd am dros ddeng mlynedd o amser. Wrth edrych dros yr adrodd- iad, gwelir fod ei gysylltiadau â maes llafur yn bur eang; ac eglur yw ei fod yn dra ffydd- lon yn ei oruchwyliaeth, ac wedi enill iddo ei hun ymddir- iedaeth y Dosbarth, fel mai nid anfynych y ca ei benodi yn gynrychiolydd i'r glofeydd ar wahanol amgylchiadau neillduol a phwysig, fel yr un dan sylw. Nid swydd ddi- bwys ydyw eiddo ysgrifenydd unrhyw gymdeithas ; a pho eangaf y cylch, mwyaf i gyd ydyw cyfrifoldeb y swyddog- ìon, ac yn neillduol gyfrifoldeb yr ysgrifenydd. Y gwir am dani yw, efe ydyw y prif beirianydd, ac yn y dyddiau presenol, ceir engreifftiau lluosog o ysgrifen- yddion esgeulus ac ymhongar wedi rhedeg trên eu cymdeithasau i ddinystr, a'r canlyniadau yn chwerw i ganoedd o feibion llafur gonest a darbodus. Camsynied mawr yn fynych ydyw penodi personau anmhrofiadol i lenwi swyddi a chylchoedd o bwys. Cymerir gofal neillduol gan fasnachwyr rhag gwneud camsyniadau a Mr. Enoch Rees, Brynamman. Ytgrifenydd Dosbarth y Glo Careg. allai brofi yn niweidiol iddyut wrth ddewis eu gweision a'u morwynion. Pan ddewiswyd ysgrifenydd Dosbarth y Glo Careg, gellid nodi mai business man oedd angen, a'r cyfryw hefyd yn wir lowr projiadol. líid yn fynych y llwyddir mewn cyf- eiriadau fel hyn, mae yn sicr, ond am Mr. Rees, gwyddom na chyfrifa yn sarhad, eithr yn hytrach mae yn ymffrost ganddo i ddyweud mai megis yn y " talcen glo " y gauwyd ef, ac yno y cafodd ei fagu; felly y mae holl gylchoedd y lofa mor gyfarwydd a natur- iol iddo ag ydyw treigliad y gornant dros wynebau llyfn- ion y gro man. Nid glowr yn ngwir ystyr y gair ydyw pob un ag sydd yn cael ei damaid yn y lofa; O na, ac y mae golwg drutínus yn fjTiych yn "mlaen talcen" aml un a ddaeth oddi rhwng dau corn yr aradr, ac a gredodd na fedrai ddysgu ychwaneg am dori glo, ar ol treulio rhyw chwe' neu naw mis i drafod rwbel. Nid un felly ydoedd ein cyfaill Mr. Enoch Rees, 0 na, canys clywsom ei hanes fel glowr, nad oedd yn ail i neb, y medrai " gyto," " holo," " cobo," '* coedo'" a'r oll yn hawdd a didaro— fel y gwneir gan y glowr gwir brofiadol. Credwn y gelhr dweud yn hyglyw mae prinion ydyw glowyr o'r iawn ryw y dyddiau presenol. Ymffrostir yn fynych gan hen bobl mae rhagor- ách oedd y cyfan a phob peth yn y gorphenol,