Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 26 IONAWR. 1893. Cyf III JOHN PENRY, neu "IOAN AP HENRI." NID oedd Iesu yn beio ei gydoeswyr am adduruo beddau'rprophwydi.ond siaradai'n finiog yn erbyn i'r rhai oedd yn gwneud hyny ymddwyn yr un í'ath a'u tadau. Mae eleni íawer o addurno ar fedd John Penry, yr bwn a elwir " Y Merthyr Cymreig," a hyny «;an bobl, fel y mae gwaethaf y modd, sydd wedi merthyru ll&wer Cymro, mor bell ag oedd yu eu gallu, drwy ysgymuno a " starfio," yr hyn yn y pen draw a ateba i gau ceg lawu cystal â chrogi. Ganwyd John Penry yn y Cefn Brith, fferrady gwladaidd ar droed mynydd Eppynt, yn swn murmur alawon priodasol y Dulais a'r Irfon, oddeutu haner y ffordd o Lanfairmuallt i Lanymddyfri, yn y flwyddyn 1559, yn efallai lai na blwyddyn ar ol i'r frenhines Bess ddechreu teyrnasu. Cyfnod rhyfedd oedd hwnw yn hanes y byd; o ran hyny y mae pob cyfnod yn llawn rhyfeddodau pe eymerem ni y pleser o'u chwalu. Y flwyddyn hono y gwnawd. Mathew Parker,—gwr oedd wedi bod am ryw hyd yn gaplan i Anue Boleyn a'r teulu brenhinol, a chodwyd ef yn y cylchoedd eglwysig mor uchel ag y gellid, ond pan ddaeth Mari i'r orsedd taflwyd ef i'r Uwch gyda dirmyg ; ac ar esgyniad Bess adferwyd ef, a chodwyd ef i'r archesgobaeth,—do, gwnawd ef yn archesgob Canterbury. Ýr oedd yn ddyn galluog, ond yn was ufudd i Bess. Yr oedd yn benboethyn o'r fath fwyaf penboeth, yn llosgi mewn cynddaredd yn erbyn yr Ymneillduwyr ac Ymneillduaeth, ac ni wyddai am ddim yn rhy eithafol i'w wneud o blaid uuoliaeth yr Eglwys Esgobol. Bu farw yn 1575, a chladd- wyd ef yn mhalas l.ambeth; ond yn amser Cromwell symudwj-d ei gofgolofu a'i esgyrn o*r lle, a thaflwyd hwynt i ryw ffos fudr. Yn ei ddyddiau ef yr oedd y Chwil-lys Pabyddol ar waith wrth orchymyn Paul iv yn erbyn Protestaniaeth, a'r Chwil-ly* Esgobol, wrth ei orchymyn yntau, yn cael ei ddefnyddio i osod i lawr Ymneillduaeth. Nid oedd fflamau y coelcerthi oedd wedi bod yn llosgi John Rogers, Hooper, Ridley, Latimer, a Cranmer ond priu wedi diffoddi, a'u llwch heb gael ei chwalu ; Rwsia mewn terfysgoedd yn tynhau caethiwed, y landlords yn cymeryd tneddiant o'r bobl dlodion yr un fath ag o'u hanifeiliaid, ac " íoau y Terrible" yu teyrnasu gyda tíwialen haiarn, ie, priu yr oedd y glaswellt wedi tyfu dros l'edd Melancthon pan yn düisymu th A iîermdy Cefn Brith yr un dydd . Ar gano! y trn st a'r treuni, A thegwch fel gem ar ei rudd Ymwelodd yr enwog John Peurj ; 'Doedd yno ddim cyfoeth y byd. Na mamaetn wrth swydd i'w ei hwian, Ond angel a siglodd ei gryd, A süodd yr awel i'r baban. Nid oes dim i ddyweud am ddyddiau ei febyd, ond gailwn dybio iddo dyfu yn debyg i blaut eraill, ac iddo í'wyuhau llawer o fendith- ion tirol, dyfrol, a meddyliol yn ardai iach Líaugamarch a Llanwrtyd, ac iddo yntau wneud y defnydd gore o bob peth a ddeuai yn ei ffordd. l'n 1578 pan nad oedd ond priu 19 oed, aeth i brif athrofa Caergrawnt, a chetr ei enw yn rhestr myfyrwyr Coleg t'eterhonse fel myfyriwr oedd yn gweithio am ei daraaid. ya gweini ar y cy foethoi'ion, yr hyn yn iaith y Coleg a elwid under sizar. Yr oedd ganddo " fam dda" yn y Cefn Brith,—mam o'r un ysbryd a nodwedd â mam Samuel,—yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfe.- ei ddyfodiad adref bob pen tymor. Yn 1583 da<-'th John Penry B.A. i edrych atn ei fam. Yna efe a aeth i Rydychen, a chofrescrodd ri huu yn Ngholeg ^t. Albaus, o'r ile yn 1586 y daeth allan yn M.A. Yr oedd yn Babydd aiJdgar pan aeth i Gaer- grawnt, ond nid oes sicrwydd a oedd felly yn d.\iod oddiyno; or.d y m:ie yn ddigon sicr iddo yn Rbydychen gael ei daflu i ganol y dòn Buritanaidd, ueu Bresbyteraidd, oedd yn golchi dros y scfyddad hwnw ar y pryd. Dau lyw- odraeth y dylanwad hwn efe a wrtho'îodd gymeryd urddau eglwysig heblaw yr urdd oedd yu ofynol i'w gyinhwyso i bregethu yn y Coleg Ond y mae yn ymddangos y byddai ar ei ymweliadau a'r Cefn Brirh yn ystod ei arosiad yn y Coleg, yn " ei gollwng hi allan " i