Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWR8 Y BYD. Rhif 29. MAL 1893. Cyf. III. JOHN PENRY, neu " IOAN AP HENRÍ." AN yr anigylchiadau hyu efe a lwyr ddi- galouodd yu ei ymdrech i gael gan y llys i gymeryd mewn llaw i efengyleiddio Cymru. Gallasai aros yn Scotland. a bod yno yn dde£- nyddiol, pe gallasai anghoôo Cymru ; ond penderfynodd ddychwelyd, gan obeithio y cai ganiatad i dreulio ei oes i oregethu i'w gyd- genedl. Wedi cyrhaedd i Lundain, a chael hyd i'w gyfeillion, efe, fel un wedi tori ei galon yn yr ymdrech i ddiwygio yr Eglwys Esgobol, a ymunodd â chynulleidfa fechan o Annibynwyr oedd yn addoli yn Southwark. Nid oedd ganddynt le i addoli ar y pryd, ond cyfarfydd- ent lle y gallent, weithiau mewn anedd-dy, weithiau yn y maes yn yr awyr agored. Nid oedd ganddynt ar y pryd nag athraw na gweiu- ìdog. Yr oedd y ddau weinidog oedd wedi bod yno—Johnson a Greenwood—-yn y carchar, yn nghyd a 60 o wŷr rhagorol eraill, ac yr oedd deg wedi marw yn y carchar. Yr oeddynt yn y carchar heb yn eu herbyn un cyhuddiad, heb- ìaw eu bod yn ymneillduo oddi wrth " Eglwys Loegr." Tywydd ystormus gafodd Ymneill- duaeth yr oes hono. Mynai yr eglwys fach yn Southwarlc i Penry gymeryd ei urddo yn weinidog iddynt; ond ni fynai efe rwymo ei hun yn Lloegr, gan mai ei gynllun oedd myned i Gymru gynted y gallai wedi gosod ei gais o flaen y llys. Yn ystod yr araser y bu yn ymdaith yn Southwark, ysgrif- enodd draethodyn bychan " Hanes Cora, Dathan ac Abiram," yn xvi. o benodau. Yr oeddid wedi dechreu ei argraphu pan gymerwyd Penry i'r carchar; ond yn mhen amser wedi ei ddienyddio, cyhoeddwyd ef gan un o'i gyfeill- ion, yr hwn a ysgrifenodd iddo fath o ragym- adrodd, yn yr hwn y darlunir ef fel " Merthyr lesu Grist," dyn da, dysgedig, o dymer addfwyn ac o ymarweddiad Cristionogol, yr hwn oedd wedi ymdrechu yn galed i ddwyn goleuni yr efengyl i gyrhaedd ei gydgenedl oedd mewn tywyílwch a thlodi, a'i fod oherwydd ei fawr ddefnyddioldeb dros Dduw, wedi cael ei gam- drin, ei garcharu, ei gondemnio. a'i ferthyru. Yroedd y rhan fwyaf o eglwys fechan South- warlc yn y carchar yr amser hwn. Yr oedd Greenwood yn y carchar er ys talrn-; a phau aeth Barrow i edrych am dano, cymerwyd ef i'r ddalfa, a chadwyd y ddau yn y carchar i haner rhyuu a newynu. Pan alwyd am Barrow i gael ei holi o flaen yr awdurdodau, ymddenuys i Penry fethu cadw o'r yolwg, a bu i un John Edwards, gwr oedd wedi dychwelyd gydag ef o Scotland, naill a'i drwy ei fwnglereiddiwch neu ddichell, ei fradychu i ddwylaw ei elynion. Dywedodd wrth elyna elwid Young, líe yr oedd Penry yn lletya, ei fod yn symud o fan i fan mewn ofn cael ei ddal ; naill a'i yr oedd yr Young hwnw wedi ymrithio yn Buritan, a Jolm Edwards yn ei ddiniweidrwydd yn arllwys ei galon iddo, neu efe a'i gwerthodd am ryw gymainto wobranwiredd, a thueddir ni i gredu yr olaf ; pe amgen, clywsid neu gwelsid ef yn rhywleyn ceisio dyweud gairdrosto ac yn wyln yn chwerw dost. Pan ddeallodd ei briod yr amgylchiadau, yr oedd ei phryder yn ymyíu ar wallgofrwydd : ac yn ei thrallod, hi dynodd allan ddeiseb at John Puckering, ceidwad y sêl fawr, i grefu arno orchymyn i driuiaeth y carchar i gael ei lliniaru. Mae pob gair o'r ddeiseb yn orlawn o bryder am ei phriod a theyrngarwch i'r fren- hines. Aeth gwraig weddw, a elwid Catherinu Unwin, gyda hi i'w chyflwyno i'r arglwydd geidwad, ond prin yr oeddynt wedi dyweud eu neges na chymerwyd y wraig weddw i garchar am fyned o honi o gyh'h y wlad i gefnogi y fath derfysgwr. a rhyfedd oedd i Mrs. Penry ei hun gael diangfa. Ýr oeddid wedi gomedd iddi hi gael ei weled yu y carchar. Ac yn y ddeiseb y mae yn lliwio y driniaeth oedd yn gael yu ddu iawn. Ond pau wnaed deiseb ei wraig yn hyspys i Penry, efe a ysgrifenodd lythyr mewn ffordd o ganmoliaeth i geidwad y carchar, ac i egluro y camgymeriad yn neiseb ei briod. " Ni chaniateir i'm gwraig," meiidai, " mae'n wir i ddyfod i'm golwg ; yr wyí' yn debycach i farw o oerni nag o newyn. Na wnaer cam â Mr. Gittins. Diau fod fy ngwraig yn ofni ei bod yn waeth arnaf nag y mae"