Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 31. GORPHENAF, 1893. Cyf. III. Y PARCH. JOSHUA T. MORGAN, (Thalamus), New Straitsville, Ohio, U.D. GAN MERTHYEIAN. MAB i'r Parch. Evan Morgan, Penydaren Merthyr Tydfil, ydyw y bardd a'r Pre- gethwr talentog Thalamus. Claddwyd ei dad, ei fam, a brawd iddo yr un dydd, o'r geri, Mehefin 10, 1849. Yr oedd pedwar o bìant, ond Thal yw yr unig un syCd yn fyw. Bu farw ei frawd ieuaugaf pan ar fyned ir athrofa. Bu farw ei frawd hynaf yn Fieer Walton East, a Rheithor Llysyfran, sir Benfro. Catîwyd Thal gan ewythr a modryb yn yr Hauliers Arms, Tongwynlas, ger Caerdydd. Cafodd yr ysgolion goreu pan yn ieuanc. Bedyddiwyd ef gan y Parch. Daniel Jones,' gynt o Lerpwl. Ordeiniwyd ef yn eglwys Fedyddiedig Heol Harrison Cincinnati, Ü.D., yn 1867. Mae efe wedi barddoni llawer yn y mesurau caeth a rhydd, a geill ganu yn ogyst- al yn y naill a'r llall. Enill- odd lawer o wobrau, a thua dwsin o fathodau gwerth- fawr. Enillodd gadair Tal- ybont, Ceredigion, ar \ "Ddaiargryn," a hollti blew a wnaed pan gollodd ar ei " Enwogrwydd" yn Mon, a'i " Abraham Lincoln " yn Merthyr. E n i 11 o d d ar " Rhyfeloedd y G-roes " yn Porthaethwy. Am flyn- yddoedd, efe a aeth a'r Tuchangerddi yn yr Eist- teddfod Genedlaethol; ond ei " Fradwr " yn Pwllheli yw ei gampwaith. Mae hon ar gof degau o feirdd. Ei awdlau ar "Y Tri Llanc," " Paul o Flaen Ffelis," " Enwog- rwydd," a'r " Nos," ydynt wedi eu cyhoeddi ar wahan Y peth diweddaf a gyhoeddodd oedd y rhifyn cyntaf o " Cornet Thalamus," pris swllt. Mae ganddo amryw lyfrau yn barod i'r wasg, ac un yw " Duwiau ac Ar^ryr y Groegiaid," cyfrol haner coron. Beirniadodd ac arweiniodd lawer yn Eistedd- fodau Cymru. Dichon mai ei lythyrau beirn- iadol ar " Feirniaid, Beirdd, a Barddoniaeth Cymru," yn Seren Cymru. flynyddoedd yn ol, oedd j pethau goreu a ysgrifenodd. Yr oedd- ent fel tân, a chyfieithid hwy yn wythnosol i'r newyddiaduron Seisnig. Bu ar Staffyr Hcrald am 'flynyddau, a bu yn golygu y Gwladwr Cymreig. Ei ddwy ddarlith nodedig ydynt " PoblyTyNesaf" ac "Ysbrydegiaeth." Tra- ddododd yr oll dros 400 o weithian yn Nghymru a Lloegr. Bardd awengryf ydyw, ac yn tueddu yn naturiol at y beiddgar a'r mawreddus, ond ei gyfan- soddiadau bob amser yn dda mewn cynllun a mater. Teimlir a gwelir mai medd- wl diwylliedig a gabolodd ei ryddiaeth a'i farddon- iaeth. Gweler yn y rhifyn hwn ei farddoneg, "Oedran yr Angel," a gyhoeddir y tro cyntaf yn y wlad hon. Mae Thalamus yn awr yn New Straitsville, O., yn myned ar ei drydedd flwy dd- ^ yn, lle y pregetha yn y^ ddwy iaith. Cymer ran helaeth a blaenllaw hefyd yn nghylch- oedd llenyddiaeth, fel beirn- iad ac arweinydd Eistedd- fodol, a bydd myn'd, byw, yn nglyn âg ef yn ymhob lle yr a iddo. Y mae megis wedi ei gym- hwyso gan natur i ateb anghenion cymdeithasol gwlad íawr y gorllewin, canys nodweddir ef gyda digon o goahead, gorph a meddwl, yn nglyn â'r oll y cymer afael ynddo. Wrth syllu i'w ddau lygaid duon, treiddgar, o dan ei dalcan llydan, a'i ben cyrliog pert, gellid tybio mai gwr llym a sarug ydyw, ond y neb a'i profo, a argyhoeddir yn fuan fod ganddo galon dyner a chynes cyfaill cywir yn ei fron,