Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BYD. AMNÄ CHREDIR HWYNT. A ddarfu i ti, ddarllenydd, erioed freuddwydio neu édychymygu dy fod yn y nefoedd, neu yn y lle arall hwnw. os do, ffordd yr oeddit yn teimlo. Cymer yn ganiataol yn awr dy fod yn y nefoedd, a bod Abraham—"tad y ffyddloniaid "—yno yn rhyw gwr yn darganfod rhywbeth newydd; rhywbeth fyddai o fantais a chysur mawr i deulu y nefoedd i gyd, ond a fedret ti feddwl am dano wedi cael y darganfydd- iad yn rhedeg i'w guddio ar geulan un o afonydd Mesopotamia neu yn mryn Haran; yno yn gomedd ei egluro na gadael i neb gyfranogi o hono. Ai nid wyt yn credu y buasai " tad y ffyddloniaid " wedi cael y fath ddarganfyddiad yn rhedeg at y cwmni ac yn cynyg rhanu a hwy Neu, meddwl dy fod yn uffern a bod rhyw ysbryd aflan yno yn cael hyd ' i ffynon fechan o ddwfr grisialaidd, a wyt ti yn tybied y galwai ar y colledigion i gyduno i gyfranogi o'r dwfr, neu a godai efe furiau o'i chwmpas hi gan wahardd 1 neb gymeryd dafn o honi heb dalu. Beth feddylit fyddai yn fwyaf cydweddol a chymeriad Duw ? Meddwl dy fod yn cael hyd i fwnglawdd aur yn dy ardd, cymerai y Llywodraeth feddiant o hono ar unwaith! Pan gaffo un ddyfais ne- wydd cloir hi i fyny rhwng muriau breintlythyrau, ac ni cha neb gyfran- ogi o hono ond am dal. Mae pob peth yn cael eijrario yn mlaen yn y byd hwn yn union fel ,y gellid tybio y byddent yn uffern. Ai trefn Duw yw cario masnach yn mlaen' ar linellau y gellid meddwl am bethau yn uffern ? A oes rhywbeth yn y wlad hon yn cael ei gario yn mlaen yn gyson a'r Beibl, yn gyson a Christionogaeth ? Gall y dywed rhywun nad yw trefn y Beibl) n ymarferol yn marchnadoedd y ddaear. Tybed uad oedd Moses yn ddyn ymarferol, tybed nad oedd Iesu d»Nazareth yn feddyliwr cîir ? Yr ydym yn cael awyr, a goleuni, a dwfr yn ol trefniad y Beibl, ac y mae y llythyrdy a'r ysgolion dyddiol yn ein gwasanaethu ar yr un radd- fa yn ol trefniad cyfreithiol, a byddai gosod atalfeyddo gylch y pethau hyn yn sicr o greu cynwrf yma, Ond pe dadleuid yn China dros add ysgrydd i.bawb, caech yno lu o offeiriaid yn barod i ddadlu yn her" feiddiol yn erbyn hyny, a phe soniech am roddi addysg i ferched, go" 'r CYF. XI. . RHAGFYR, 1901. Rhif 12. ^e SYLWRDÄU DIFQDD, ^