Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 48. RHAGFYR, 1894. Cyf. IV. CYMDEITHASIAETH. Gan B. J. Derfel. Llythyr XXV. Yfkd, Gamblo. Gwtstlo. Onid yr yf-'d, y gamblo, a'r ponio ydynt yn drindod sydd yn achodi y tlodi a'r trueni yn y byd'? Yr wyf wedi ysgrifenu ar yr yfed mewn Uythyr blaenorol. ac y mae yn y llythyr hwnw ateb i'r wrthddadl hon mor bell ag y mae â t'yno â'r yfed. Er hyny, gwell efallai fydd i mi helaethu ychydig ar y pwnc. Bydd arcaf haner o;n ysgrifenu ar y pwnc hwn rhag i rywun dybied fy mod =»m eu hesgusodi mewn unrhyw fodd. Nid oes genyf air i ddweud o'u plaid, mwy nag o blaid lladrad neu fwrdrad. Yr wyf yn cydnabod fod yr yfed, y gamblo. a'r ponio yn ddrygau mawr- ion. O îy rhan fy hun yr wyf yn ddigon boddlon i yohwanegu atynt yr ysmygu a phethan eraill. Byddai yn dda cael gwared ohonynt i gyd. Byddai y byd yn llawer gwell heb- ddynt bob yr un. Cydnabyddaf eu bod yn achosi tlodi a thrueni—ond nid yr holl dlodi na'r holl drueni sydd yn y byd. Yr wyf yn meddwl y gellir dangos eu bod yn fynych yn effaith o'r tlodi, ac nid yn achos ohono—ac na f yddai eu symud o'r byd mewn un modd yn sicrhau symudiad tlodi a thrueni o'r byd. Gadewch i ni weled : Mae yn ffaith fod llawer 0 bobl sobr yn dlawd iawn heb fod aHan o waith. Mae yn ffaith hefyd, fod dynion sobr, ie, llwyry*r- ŵrthodwyr, yn fynych allan o waith, ac wrth gwrs yn dlawd. Beth am hyny, meddent n wy P Hyn— mae yn profi fod rbywbeth heblaw yfed diodydd m^ddwol yn achosi ílodi. Cydnabyddaf fod mwy o yfwyr nag o ddirwestwyr yn dlawd ac allan o waith—a bod dirwestwyr yn meddu mantais ar yr yfwyr, tra byddo yr yfwyr yn llawer a'r ddirwestwyr yn ychydig; ond pe byddai pawb yn ddirwestwyr, difianai y fantais i rai, a'r anfantais 1 eraill. Lle bynag y mae peth yn anfantais i rai, mae yn rhwym o fod yn fantais i eraill. Mae llawer yn colli golwg ar hyn, ac yn tynu casgliadau cyfeiliornus oddiwrth y peth Mae yn bosibl i unigolion fod yn golledwyr, heb i gymdeithas, fel cyfangorp'i, golli dim. Yr hyn a wneir yn y digwyddiad ydyw tros- glwyddo peth o'r naill i'r llall— cytbethoo;i rhai ar draul tlodi eraill—■ ond nid yw y gymdeithas i gyd nac yn cyfoethocach nac yn dlotach o'r herwydd. Mae hyny yn wir i raddau pell am y diodydd meddwol. Gall unrhyw nn weled, heb gael ei hysbysu, fod y fasnach feddwol yn cyfoethogi y darllawyr a'u teuluoedd, heb son dim am y 1 u mawr o dafarnwyr a'u teuluoedd hwythau. Hhaid cofio hefyd fod y Llywodraeth yn derbyn swm arnthrol oddiwrth eu gwerthiant. Pe diddymid y fasnach, byddai raid gosod trethi ar y bobl a ddygai swm cymaint i'r trysorlys ag a dderbyuir oddiwrth y fasnach. Byddai hyny feallai yn dda, oblegyd mae yr jtwyr a'r myg- wyr yn awr yn talu mwy na'u rhan, tra mae y dirwestwyryn tala llai na'u' rhan. Yrwyfyn crybwyll y pethau hyn, md i esgusodi y fasnach feddw- ol, ond i ddangos fod dwy ochr i'r cwestiwn. Heblaw hyny, pe cauid pob tafarn yn y wlad, byddai raid i'r tafarnwyr gystadlu âgeraill am fodd- ion bywoliaeth, neu byddai raid eu cadw jn segur. Ac am bob un sydd yn syrthio 1 dlodi drwy yfed, gwneir Ue i un arall godi i fynu yn ei le.