Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 4. EBRILL, 1895. Cyf. V. CYMDEITEASIAETH. Gan B. J. Detfel Lltthyr XXIX. CaMGYMERIA-DATJ YN NGHYLCH C YMDEITHASIAE TH. Pe rhenid holl gyfoeth y wlad yn rhanau eyfartal i bawb heddyw, oni fyddai rhai yforu nesaf heb ddim am eu bod wedi treulio y cwbl yn ofer, tra y byddai eraill drwy ofai wedi gwneud eu rhan yn ddwy ? Pe rhenid, a dim ond hyny, mae yn ddigon tebygol mai dyna fyddai y canlyniad. Ünd pwy sydd yn myned i ranu, neu yn cynyg am ranu ! Nid Cymdeithaswyr yn sicr. Nid yw y fath wrthuni erioed wedi cael ei eni yn ymenydd yr un Cymdeithaswr. Y gwirionedd yw fod y syniad o ranu wedi cael bodolaeth yn mhen rhyw wrthwynebwr neu giìyd. Ffordd gymdeitkasol ydyw y ffordd fawr, ac y mae yn perthyn i bawb fel eu gilydd; ac ni feddyliodd hyd yn nod gwrth- Gymdeithaswyr am ei rhanu yn rhanau cyfartal i bob un. Yr un modd y gellir dweyd am y llythyrdy a'r pellebyr; ac ni feddyliodd neb erioed am eu rhanu. 0 dan Gym- deithasiaeth bydd y tir a'r cyfalaf yn eiddo i bawb, fel y ffordd fawr, a'r llythyrdy a'r pellebyr; a fydd dim eisiau eu rhanu, nac yn bosibl gwneud ayny, ond byddant yn ollddigonol ar gyfer anghenion pawb, a chaiff pawb yr oll a fydd arnynt eisiau. Son am ranu—ni fyddai rhanu holi olud y byd yn rhan gyfartal i bob un yn ddim o'i gymharu ä'r hyn a wneir gan Gym- deifehasiaeth. Nid yw golud y byd i cyfalaf a'r golud y flwyddyn hon a'r flwyddyn neaaf, a phob blwyddyn o'i oestra bydd byw, yr hyn sydd anrhaethol fwy na rhanu golud presenol y byd rhwng pawb. Onid dynion drwg, anmhenwyr, annghredwyr.adidduwiaid a'r cyffelyb sydd wedi cychwyn ae yn cario y symudiad cymdeithasol yn mlaen ? Y fath feddyliau sydd yn llanw penau rhai pobl! Mor barod ydyw llawer ohonom i osod ein hunain yn safon doethineb a daioni y byd. ì'r Groegwyr ac i'r Rhufeinwyr, barbar- iaid oedd pawb o'r tuallan iddynt en hnnain. Nid yw Prydeinwyr nemawr gwell na'r Groegwyr ar y pen hwn. Mewn cylchoedd crefyddol, yn enwedig cerir y teimlad hunanol a chreb&chlyd i eithafoedd pell iawn. Edrychir gan lawer o Brotestaniaid ar y Pabyddion fel plant y fall; a dysgir y Pabyddion o'r cryd i'r bedd mai y Pi'otestaniaid ydynt y pechaduriaid mwyaf o bawb. 1 gwirionedd ydyw yr hyn a gredir genyf fi—cyfeiíiornad ydyw yr liyn a gredir gan eraill. Dynion da ydynfe y rhai sydd yn credu yr un fath à mi—dynion drwg ydyw y rhai sydd yn credu yn wahanol i mi. Mae yr hunanoldeb dall yma yn hen iawn. Yr oedd yn y byd yn amser Job, oblegyd mae y patriarch yn ei watwar mewn geiriau llymion,—" Diau mai chwi sydd bobl, a chyda chwi a bydd marw doethineb." Yn mhob oes o'r byd, mae y proph- wydi a'r gwaredwyr wedi cael eu cashau, a'u cablu, a'u lladd. Nid oedd y Prophwyd o Nasareth yn eithriad i'r rheol. Gwrthodwyd Ef gan ei bobl ei hun. Cablwyd Ef, a dywedwyd am dano ei fod yn ddyn glwth.yn gyfaill publieanod a phech- aduriaid, ac yn ben ar y cwbl, oyhudd- wyd Bf o fod yn gablwr. Yn y diwedd