Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y RYD. Rhif 2. CHWEFROR, 1896. Cyf. VI. PWY YW'R LLEIDR? -------o------ " Y tlawd ga'i gospi'n dost pe bae, Yn dygid gwydd o'r llyn neu'r cae, Ond moli'r lord a wneir—mae'n syn, Am ddwyn yr wydd, y cae, a'r Uyn." fYBED mai y teimlad cynhenid sydd ynom o'n hawl i'r Ddaear yw tad y casineb sydd ynom at gyfreithiau anwar helwriaeth. Pe elai John Jones o gylch y wlad dan ladd da pluog—ieir, hwyaid, a gwyddau, neu gymeryd wyau o'r nythod, ystyriai y cymyd- ogion hi yn gymwynas â chymdeithas iddo gael ei ddal a'i gospi, ac edrychai cymdeithas i lawr arno ; ni chaniateid iddo aelodaeth mewn un eglwys na lle mewn cymdeithas barçhus ; ond, pe delid John Jones yn lladd ysgyfarnog neu adar gwylltion ac iddo gael ei gospi, cai gyd- ymdeimlad cyffredinol, a chynorthwyid ef i ddwyn y treuliau, ac ni feddylid am ei ddiarddel o un eglwys na'i ddysgyblu, ond edrychid gyda dirmyg ar y ceidwad (foeỳer), neu'r heddgeidwad fyddai yn ei erbyn, a'r tystion fyddai yn ei erbyn. Ai nid )rw y teimlad hwn yn codi o'r ymwybyddiaeth sydd ynom fod y Ddaear yn perthyn yn ol trefn Duw yn gystal i'r herw-heliwr ag i'r lord. Beth sydd yn peri i ni deimlo yn wahanol at leidr gwyddau rhagor at leidr petris ? Mae'n wir ein bod yn cael ein dysgu yn barhaus, yn wladol, cym- deithasol, a chrefyddol, fod eiddo tirol personol yn dra chysegredig, ond y mae y teimlad fod gan y teulu hawl i'r Ddaear yn fwy cysegr- edig, ac y mae mor ddwfn ac annileadwy ag ofn Duw ; mae yn wir ei fod mewn rhai amgylchiadau wedi myned i golli o dan ddylanwad land- lordiaeth, fel creigiau yn myned o'r golwg o dan donau y môr, ond pan elo yn drai, neu ar ystorm, byddant yn y golwg ac mor gadarn ag erioed. Tra fyddo hi yn dywydd teg ar gymdeithas, a phawb yn cael tamaid yn gysurus, ni bydd y " werin " yn meddwl dim pwy yw perchen y Ddaear, ond pan do hi yn ystorm, a newyn yn ein llethu, daw y teimlad mae y bobl bia y Ddaear i'r golwg ar unwaith. Os mai eiddo personau unigol yw y ddaear, yna y mae hawl gan- ddynt i wneuthur â hi fel y byddont yn ewyllysio, a gwneud a îynont â'r helwriaeth sydd ärni, a ffolineb yw grwgnach am iddynt gospi y neb a sathro ar eu terfynau.