Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 9. MEDI, 1896. Cyf. VI. "BENJAMIN FRANKLIN, A'I DDYLANWAD AR WLEIDYDDIAETH AMERICA." Ysgrif IV.—Franrlin fel Gwleidyddwr. II. Y rhan a gywcrodd FranMin yn y gwaith o scfydln Annibynìacth yr Unol Dalacthau. Yr ydym yn awr wedi dyfod wyneb yn wyneb ag amgylchiad a brofodd fod yr Americaniaid o wneuthuriad rhagorach nag y dych- ymygodd calon Lloegr erioed. Profodd yr argyfwng oedd wrth y drws fod plant yr hen Buntaniaid yn deilwng o'n tadau enwog, yn eu hysbryd annibynol ac yn eu sel dros eu hiawnderau a'u rhyddid gwladol. Aethant i lawr i Bozrah gan lwyr gredu yn nghyfiawnder eu hachos, a daethant i fynu o Edom wedi llwyr orchfygu eu holl elynion. Camsyniad mawr Prydain oedd synied yn rhy ìsel am allu, adnoddau, a gwroldeb yr Ameriçaniaid. Yn malchder ei chalon, tybiai y wlad hon y gallasai wneud fel yr ewyllysiai au cefnderwyr yr ochr arall i'r dwr. Ond buan y profwyd unwaith yn chwaneg nad yw y rhyfel bob amser yn eiddo y cedyrn. Yr oedd cyfiawnder o du yr Americaniaid, ac am hyny ofer oedd i Shon Ben Tarw wingo yn erbyn y symbylau. Trefnòdd rhagluniaeth hefyd fod un o'r prif weinidogion salaf a mwyaf diwerth a fu yn Lloegr erioed, yn eistedd ar y pryd wrth lyw y deyrnas hon. Yr oedd Arglwydd North mor amddifad o allu a thalent wleid- yddol ag oedd y fyddin a'r llynges o swyddogion doeth ac arweinwyr gwroi. Ni fu erioed fwy o fonglerwaith na yr ymosodiad anghyfiawn hwnw o eiddo Prydain ar ryddid ac iawnderau America. Dywedasom yn barod mai y Stamp Ä-ct a barodd i'r gwrthryfei dori aDan. Pasiwyd deddf gan weinyddiaeth Grenville i drethu y trefedig- aethau, ond diddymwyd hi gan weinyddiaeth Rockingham, yr hon a