Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWR'S Y BYD. Ehif 8. AWST, 1897. Cyf VII. JOHN LOCKE, A'i Ddylanwad ar Wleidyddiaeth Eweop. Gan y Paech. D. Lewis, Ehyl. Ysgeif III.—Amddiffynwyr y " Ddwyfol-Hawl." tE mor afresymol a disynwyr yr ymddengys yr athrawiaeth o " Bdwyfol-hawl brenhinoeddv i ni yn yr oes hon, eto, credid ynddi yn ddiysgog, a derbynid hi yn gyffredinol fel peth anhebgorol i anrhyd- edd a diogeíwch yr orsedd gan holl bleidwyr brenhiniaeth yn ein gwlad dair ganrif yn ol. Ni chyfrifid neb yn uniawngred yn ei ffydd frenhinol heb fod yr erthygl hon y benaf yn ei gyffes. Dyma y maen prawf wrth yr hwn yprofid teyrngarwch y deiliaid ; hon a ystyrid y noddfa gadarnaf a feddai penau coronog Prydain Fawr i lechu ynddi yn amser dryc-hin. Profodd iddynt aml i dro yn ymguddfa rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymhestl. Nid yn unig credid yr athrawiaeth yn llwyr a diysgog gan y " werin a'r miloedd," ond hefyd gan y personau mwyaf goleuedig eu meddwl, pwyllog eu barn, aruchel eu talentau ac eang eu gwybodaeth a'u dysg. Yr oedd dewisolion y bobl o ran gwybodaeth, talent, athrylith, dysgeidiaeth a barn, yn credu yn yr athrawiaeth o Ddwyfol- hawì brenhinoedd mor gadarn a diysgog â'r gwanaf ei gynheddfau yn y wlad. Ceid ambell un yn awr ac eilwaith yn ddigon eithafol a gwrol i brotestio yn erbyn y fath ysgymunbeth disynwyr, ond buan y gosodid taw ar y cyfryw trwy garchar neu alltudiaeth neu angeu. Teyrnfrad- wriaeth o'r fath waethaf y cyfrifid pob peth a ymylai ar wadu hawl y pen coronog, pa mor wallgof neu lygredig bynag y byddai, i weithredu yn hollol fel yr ewyllysiai yn ol ei fympwy a'i ddymuniad ei hun. Yr oedd yr athrawiaeth hon yn un o erthyglau fwyaf cysegredig cyffes ffydd offeiriaid llygredig yr eglwys wladwriaethol. Pregethent hi yn noeth a difloesgni. Ychydig o efengyl glywid o bwlpudau yr eglwys y dwthwn hwnw, ond am Ddwyfol-hawl y brenhin cyhoeddid hi o Sabbath i Sabbath fel yr un peth mmcr anghenrheidiol er iachawdwriaeth y wlad. Bu raid i frenhinoedd Lloegr gyfìawni mesur eu hanwiredd drosodd drachefn a thrachefn cyn y llwyddwyd i siglo ffydd y deiliaid