Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Ehif "6, MEHEFIN, 1897. Cyp VII. JOHN LOCKE, A'I DDYLANWAD AR WLEIDYDDIAETH EWEOP. Gan y Parch. D. Lewis, Ehyl. I. MAE yn y byd aniryw ffyrdd trwy y rhai y gall plant gwragedd gyrhaedd enwogrwydd ac anfarwToldeb. Enillodd Nero an- íarwoldeb trwy ei greulondeb a'i farbareidd-dra. Enillodd Alexander a Napoleon anfarwoldeb trwy eu brwydrau gwaedlyd a'u buddugoliaethau diystyr. Enillodd 01iver Cromwell a George WTashington anfarwoldeb trwy eu dewrder ar faes y gwaed, a'r diwyg- iadau gwleidyddol a ddygasant oddiamgylch o blaid rhyddid a chyd- raddoldeb. Enillodd Locke a Franklin anfarwoldeb, a bery byth yn wyrddlas, trwy eu hysgrifeniadau hyawdl o blaid hawliau cyfiawn a genedigol-freintiau dyn, a thrwy ategu rhyddid a chyfiawnder deiliaid pob gwlad a theyrnas â'r rhesymau cadarnaf a mwyaf di-droi yn ol. Ac yn ein bryd ni, anfarwoldeb o'r natur yma yw y mwyaf gwertbfawr, parhaol, bendithfawr, ac iachusol yn ei ddylanwad er daioni y byd yn gyffredinol. Dywed yr Hen Lyfr—" Y eyfiaicn a fydd byth mewn coffadwriaeth '' ; ac y mae y dywediad wedi ei lwyr wireddu ganoedd o weithiau yn hanes llawer gwlad a cbenedl. Fel Cymry, gallwn ni ymffrostio yn ein beirdd awengar, ein cerddorion athrylithgar, ein dysgawdwyr llen a lleyg, ein rhyfelwyr gwronaidd, a'n llenorion clasurol. Ond wedi y cyfan, gwroniaid y'ffydd—cedym y pwlpud sydd yn cael y lle mwyaf cysegredig yn ein mynwes ni fel cenedl. Er fod haner canrif wedi myned heibio er pan y gosodwyd Christmas Evans, John Elias, a Williams o'r Wern yn nhŷ eu hir gartref, eto, mae eu henwau mor adnabyddus heddywT ag erioed, a'u coffadwriaeth fel "gwin Libanus." Ac y mae y rheswm am hyn yn eglur ddigon. Cysegrasant eu galluoedd digyffelyb, eu doniau seraphaidd, eu hyawdledd aruchel, eu. manteision a'u hamser ar allor defnyddioldeb er daioni eu cydwladwyr yn gymdeithasol, moesol, ac ysbrydol. Mae bywyd o weithgarwch ac o ymwadiad er mwyn eraill yn sicr, hwj'r neu hwyrach, o enill safle anrhydeddus, a pharch bytholrwydd yn nghysegr sancteiddiolaf y natur ddynol.