Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Ehif 9. MEDI, 1897. Cyf VII. JOHN LOCKE, A'i Ddylanwad ae Wleidyddiaeth Eweop. Gan y Paech. D. Lewis, Ehyl. Ysgeif IV.—Ehesymau Anatebadwy Locke. ' ^pYHOEDDODD Locke yn uniongyrchol ar ol y chwildroad mawr a )^ỳi gymerodd le yn y wlad hon yn 1688 ei ddau Draethawd enwog ar " Lywodraeth Wladol." Yn y cyntaf y mae yn llwyr ddymchwel rhes- ymau direswm Eobert Filmer, ac yn dangos yn eglur y pethau nad ydynt yn cyfansoddi awdurdod wladoì. Yn ei ail Draethawd y mae yn dangos lawn mor eglur yr elfenau sydd yn cyfansoddi Llywodraeth Wladol. Dengys fod holl adeilad afrosgo Filmer yn gorphwys ar yr haeriad disail " y dylai pob Llywodraeth Wladol fod yn un-benaethol," am meddai efe, " fod pob dyn yn cael ei eni mewn cyfiwr o gaethiwed." Dywed Filmer i ddechreu nad yw dynion yn rhydd wrth natur, " eu bod yn cael eu geni yn ddarostyngedig i awdurdod eu tadau," a geilw yr awdurdod dadol hon yn ' awdurdod freiniol? neu ' hawl dadol.' Adda oedd arglwydd y greadigaeth a meistr y teulu. Yr oedd ganddo awdurdod lywodraethol, o ganlyniad yr oedd yn frenhin. Yr oedd ganddo awdur- dod brenhin felly ar ei blant a thylwyth ei dý, a bod deddf treftadaeth yn trosglwyddo yr hawl hon i lawr o âch i âch yn mherson y cyntaf- anedig." " Gyda golwg ar sefydliadau ac ordeiniadau naturiol y rhai sydd o drefniad Duw, megis hawl tad i lywodraethu ei deulu, ni fedr gallu is- raddol dyn osod terfynau iddynt, na gwneyd cyfraith i'w difodi. Mae'r Ysgrythyr yn dysgu yn eglur fod tad y teulu dynol wedi cael ei gynysg- aeddu âg awdurdod un-benaethol anherfynol." " Wrth gymharu hawliau naturiol tad i lywodraethu ei deulu â hawl- iau brenhin i lywodraethu ei ddeiliaid, gwelir eu bod yr un peth, ond yn