Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr ]4erald Genadol. Rhif ii. TACHWEDD, 1901. Cyfrol XXII. Mr. John Hinds, Llundain. GYDA'r rhifyn hwn, hyfrydwch mawr i mi ydyw cyflwyno i ddarllenwyr yr Herald, ychydig o hanes y boneddwr caredig y mae ei enw uchod. Brodor o Gaerfyrddin ydyw Mr. Hinds, lle y daeth at grefydd yn ddyn ieuanc, ac y bedyddiwyd ef yn Heol y Prior gan y diweddar Barch. G. H. Roberts, a mawr ydyw ei barch i'r gwr da hwnw hyd y dydd hwn. Hana o du ei fam o blith Bedyddwyr cryfion, doniol Ffynonhenry, a bu ei dad (y diweddar Mr. Wm. Hinds) am lawer o flynyddoedd hyd derfyn y daith, yn ddiacon a thrysorydd eglwys barchus Heol y Prior ; ac yr oedd ffermdy " Y Cwnin," yn gartref cynes i weinidogion y Gair o bob rhan o'r wlad. Digon naturiol felly ydyw gweled y bachgen a'i ddyddordeb yn fawr yn symudiadau y Bedyddwyr, a'i sel yn angerddol dros eu hegwyddorion. Gadawodd ei gartref ynieuanc, ac ymsefydlodd yn y brif-ddinas, gan ymaelodiyn Heol y Castell, ac o'r dechreu ymdaflodd gyda ei holl enaid i wahanol ranau gwaith yr Arglwydd yn y lle hwnw. Daeth ei werth a'i deilyngdod yn fuan i'r amlwg, ac erbyn heddyw lleinw, neu bu yn Uanw, bob swydd o gyfrifoldeb a pharch y gall yr eglwys ei osod ynddi, a pha un bynag ai fel llywydd y Gymdeithas Ddiwylliadol, arolygydd neu athraw yn yr Ysgol Sul, neu ynte fel diacon a thrysorydd yr eglwys, y mae iddo " air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun." Yn fuan ar ol dyfod i Lundain, cychwynodd mewn masnach ei hun, a thrwy yni, dyfalbarhad, a medr o'r radd flaenaf, dringodd yn gyflym yn y byd masnachol i safle nad oes ond ychydig o Gymry wedi cyrhaedd ei chyffelyb yn y ddinas, ac er nad yw " efe eto ddeugain oed," nid oes odid nebyn fwy adnabyddus a mwy ei barch yn mhlith ei gydwladwyr yn y^brif-ddinas nag efe. Erbyn hyn mae ei ofalon masnachol yn drymion, a'r galwadau arno yn lluosog, ond ni cha dim ymyryd â'i weithgarwch gydag achos yr Arglwydd. Mae eglwys Heol y Castell fel canwyll ei lygad—nid oes un gwasanaeth yn rhy drwm ganddo i'w gyflwyno iddi—ac ní chafodd gweinidog erioed ffyddlonaeh cyfaill a chynorthwywr. Mae ei galon yn un fawr