Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TYWYSYDD-Y-PLÄNT. Rhif 9. MEDI, 1901. Cyf. XXXI. PARCH. D. RHAGFYR JONES, TREORCI. AE Mr: Bhagfyr Jones yn frpdor o Ddolgellau—tref fechan ond a ystyrir fel prif dref Sir Feirionydd—saìf mewn dyffryn Üydan ffrwythlawn o brydferthwch mawr, wrth odreu Oader Idris. Perthyna llawer o hynafiaethau i dref Dolgellau a'r gymdogaeth—ystyr- id y lle hwn hyd yn ddiweddar feî un o'r rhai mwyaf Cymreig yn Ngwynedd, ac aml y dyfelid mai yma y byddai cartref olaf yr iaith Gymraeg, ond y mae y Bheilffordd a'r ysgolion yn newid yr argoelion yn gyflym. Ar Bhagfyr I7eg, 1858, yn Nolgellau y ganwyd gwrthrych ein ysgrif. Dygwyd ef i fyny gyda ei dadcu a'i famgu o ochr ei fam. Yr oedd yn blentyn bywiog ac o feddwl cyflym a threiddgar. Dysgodd ddarllen yn bum mLwydd oed, a dechreuodd enili gwobrau am adrodd a dar- llen pan tua saith oed. Oymerwyd ef i'r ysgol gyda ei fod yn dechreu cerdded. Yr Ysgol Fritanaidd yn gyntaf neu Ysgol Oapel Mawr (M.O.) fel ei gelwid, yna Ysgol y Bwrdd. Frentis- iwyd ef yn Pupil Teacher flwyddyn cyn amser oedran, a gwasan- aethodd dymor o bum mlynedd fel y cyfryw dan Fwrdd Ysgol Dolgellau. Bu am beth amser yn caöl gwersi prifat gan y Parch 8. O. Morris, M.A. prif athraw yr Ysgol Bamadegol yn y Ue, ac yn niwedd 1877 aeth i Lundain, a bu yn is-athraw yn Kentish Town, dan Fwrdd Ysgol Llundain. Dychwelodd oddiyno yn mhen blwyddyn, a bu wedyn yn Ohebydd yn Swyddfa y J)ÿdd, Dolgellau. Yn ystod yr amser hwnw, yr oedd yn adnabyddus fel arweinydd côi lled Iwyddianus, a rhagorai hefyd am ddarllen Cerddoriaeth yn Nodiant y Sol-fa ar yr ol wg gyntaf. Oafodd ei dderbyn yn aelod o Eglwys Dolgellau yn ddeuddeg oed gan y gweinidog athrylithgar y Parch E. Aeron Jones (Manordeilo yn awr). Yr oedd ei fab y Parch E. Griffîth Jones, B.A., Balham, Llundain, yn cael ei dderbyn yr un pryd. Drwy ei fod wedi ei fagu yn awyrgylch pregethu a j>hregethwyr teimlai awydd er yn fore iawn i fyned i bregethu ei hunan, a