Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TYWYSYDD-Y-PLÄNT. Rhif 12. RHAGFYR, 1904. Cyf. XXXIV. Y PARCH. W. J. NICHOL30N, PORTHMADOG. —o—o— AB ydyw y gwr da uchod i'r di- weddar ' W. N.,' neu y Parch. Win. Nicholson, Lerpwl. Brodor oedd ' W. N.' o Gaergybi, prif dref Ynys Môn,fond hana mam ein gwrthrych o Fangor fawr yn Arfon. Ganwyd Mr. Nicholson ar y 23ain o Ragfyr,yn y flwyddyn 1866, yn nghartref ei fam yn Mangor, ac yr oedd ei dad y pryd hwnw yn cadw ysgol yn Llanengan, Lleyn. Awst yr 20fed, 1867, cawn ysgol- feistr Llanengan yn cael ei ordeinio yn weinidog yn Rhoslan a Llan- ystumdwy, felly pan nad oedd ond wyth mis oed, cawn y baban ' William John ' yn byw yn mhentref bychan tawel Llanystumdwy, tua dwy filldir o Griccieth. Bu y teulu yn trigo yma am dair blynedd, a diau i'r gwr bach wneud llawer o ' wyrthiau ' yn ystod y cyfnod hwnw. Yn 1870, symudodd ei dad i gymeryd gofal eglwysi Treflys a Thynymaes, Bethesda. a bu yn y cylch hwnw hyd 1872. Y mae yn debyg i'r llanc bach ddechreu mynd i'r ysgol yn y cyfnod yma, ac yn mysg ei gydysgoleigion yr oedd y Parch. D. J. Williams, ei gymydog, a'i gydlafurwr