Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ORFA: CglrJjgîratoíT gltsol af toasaîtîttffr ŵtrìsìtatmfy u ^wcìiìsanmtfy <&pixág. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAP O BOB MI& Eliif 38. CYF. III. HYDEEF 1, 185. Pris 2g. <Y CEEATIOI" YN NHEEHEBBEET. NlD yn aml y cawn ni yn Nghymru y pleser o gofnodi perfíormiadau cyflawn o Dreithganau y prif feistri. Y mae corau hroliog Cymru heb flino eto ar ganu yr un pethau byth a hefyd. Ewch i Gyngherdd neu Eistedd- fod, yr un darnau a genir yno ag a ganwyd er ys deuddeg mlynedd yn ol. Braidd y barnwn ni ei bod yn angenrheidiol yn Nghymru y blynyddau hyn i fyn'd i'r draul o argraffu programme unrhyw Gyngherdd, na thestynau cerddorol unrhyw Eisteddfod, canys beidd- îwn ddweyd y dywedwn mewn dau neu dri chynyg pa ddarnau a genir, "Canys fel yr oedd yn y dechreuad, felly mae yr awr hon ac y bydd yn oesoesoedd," ydyw hi yn Nghymru, ond nis gallwn ni roi ein "Hamen" gyda cherddorion a phwyllgorau ariangarol, a ffug- genedlgarol y dyddiau hyn, sydd beunydd yn cyhoeddi "yn enw Duw a'i dangnef"—fod gwledd o "gawl ail-dwym i'w chynal yn ngwyneb haul a llygad goleuni"! Dnd diolch fod ambell i gymdogaeth am symud yn mlaen mewn cysylltiad a chyfan-weithiau uwchraddol, ac yn mhlith yr ychydig hyny, y mae cantorion ■Cwmrhondda, y rhai yn Neuadd gyhoeddus Treherbert ar y 30 o Fedi—o dan arweiniad Caradog—a roddasant berfformiad cyflawn o'r "Creation," (Haydn)—Oratorio ac sydd yn cael ei hystyried fel un o'r cyfan-weithiau mwyaf gorphenedig o'r oratorios. Rhifai y Côr tua 70 gyda cherddorfa. Cynrychiolid ^gwahanol gymeriadau yr Oratorio fel y canlyn:— Gabriel........................Miss Marian Ẅilliams. Uriel..........................................Eos Morlais. Raphael.................................Mr D. Morgan. Efa.....................Miss Marian Williams. Adda........................Mr D. Morgan. Wedi i ni gael gan y Gerddorfa y representation o'r chaos ag oedd yn gorchuddio gwyneb y dyfnder cyn y greadigaeth, ni a gawsom Recit Raphael yn mherson Mr Morgan yn dra hapus, yr hon sydd yn arwain i'r Gydgan fer—ond hyfryd a darluniadol— " And the «Spirit of God mov'd upon the face of the waters," ac yma y cawsom arwydd nad rhyw fath o berfformiad oeddem i gael, ac fod y Côr wedi bod o dan wrteithiad arweinydd gaíluog. Yn niwedd y gydgan hon ni a gawsom idea Garadogaidd,—os nad idea Haydn—yn «ael ei chario allan. Rhwng y ddwy frawddeg—Let there be light a and there was light tarawa yr offerynau gord y seithfed llywyddol yn staccato, ac yma y rhoir—medd Carodog—ddrychfeddwl o Dduw yn tanio >ei fatchen i oleuo yr haul, ac ar y frawddeg a agorir yn unseiniol ac yn p tarewir y cord cyffredin mwyaf a,r C yn/a dyma hi ar unwaith yn ddydd goleu—y •dydd cyntaf a lewyrchodd ar ein byd ni—anhawdd fuasai hyd yn nod i Haydn i feddwl am frawddegau mwy desgrifiadol na y rhai hyn; llawn mor ddesgrifiadol hefyd ydyw y rhanau offerynol, ar ac Avedi tarawiad y cord y cyfeiriwn ato yn efelychu pelydrau yr huan newydd yn ymwasgaru dros yr wybren annherfynol. Rhoddodd Eos Morlais brawf adnewyddol, yn eí ddatganiad efleithiol o'r adroddgân fechan, ond hapus "And God saw the light," yn gystal ac yn yr Unawd aml-drawsgyweiriadol—"Now vanish before the holy beams,"—nad oes achos i ni i fyn'd tu draw i Glawdd Ofl'a i chwilio am denor a all wneud cyfiawnder a rhanau unigol mewn Oratorio. Cymerodd y Côr i fynu y gydgan—" Desprairing Cursing rage, " mewn arddull rwysgfawr ac awdurdodol, a thra nodweddiadol o feddwl y gerddoriaeth. Mor \ fyw y portreada Haydn yn y symudadau ehedganol yma y gŵyll a'r ysbrydion uffernol yn cael eu hyinlid o flaen y wawr i ddyfnderoedd y tywyllwch eithaf. I Yn rhanau olaf y gydgan hon cawn ein hunain yn mAvynhau y gerddoriaeth hvyaf mirain—hollol wahanol i nodwedd y rhan gyntaf—yn cynyrchu ynom y teimla- : dau mwyaf boddhaus, ac yma nis gallwn lai na rhoi i'r côr y ganmoliaeth a deilynga, yn ei symudiadau hapusol o'r naill ddrychfeddwl i'r llall yn y gydgan hon, yn gystal ag yn y cydganau eraill na chaniatâ gofod i ni alw sylw atynt yn bresenol. Rhaid i ni hefyd basio heibio datganiad Mr Morgan o'r adroddgan " And God made the fìrmament. " Yn yr Unawd ar gydgan.—"The marv'lous work', y cawsom ni y pleser cyntaf o wrando Miss Marian Williams yn cymeryd rhan mewn Oratorio, ac yn sicr cyflawnodd ei rhan yma yn gystal ac yn "With verdure clad," yn mliell uwchlaw ein disgwyliadau uchaf. Gallem gyfeirio ein darllenwyr at amryw bwynt- iau effectẁe a wnaeth yn yr Unawd dan sylw ar "the healingplant" ar F F# a G. Y mae hefyd yn berffaith feistres ar yr addurniadau troellawg, y rhai sydd yn britho Unawdati per-felodus Haydn. Yn "Awakethe harp," ni wrandawsom ar Gôr o'r un rhif yn cymeryd i fyny brif destyn yr ehedgan yn rhagorach, ac effeithiol iawn y cawsom y stretto yn tudalen 34. Am "The heavens are teEing"—prif gydgan yr Oratorio medd rhai—yr oedd yr effaith yn fendigedig, yn arbénig yn y symudiadau anmherssiniol tudalen 48 a 49, y rhai a gynyrchant yr eííaith mwyaf mawr-frydig—yma y mae Haydn fel wedi colH pob llywodraeth arno ei hun ac wedi rhoi rhyddid i'w awen dóreithiog i gymeryd ei Uwybr ei hun i ddarlunio ardd- erchawgrwydd synfawr y greadigaeth newydd.. Gan nad oes gofod nis gallwn sylwi ar y dylanwad a gyn- yrchwyd gan ddatganiad y rhanau eraill o'r gwaith. Idea dda oedd rhoddi y Côr i ganu "For ever blessed v his pow'r " ar eu heistedd,yr hyna arwyddai orphwysiad ar y Seithfed dydd, yn gystal a rhoddi y drychfeddwl mai yr angylion a gydganai ag Adda ac Efa yn "By* the« with bíiss."