Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GERDDORFA: CrtBflrata Iftiftol ut towmMtlg €txòìíoxmi^ a ^mòoomwttìj ëptóg. CYHOEDDEDIG AB Y CYNTAP O BOB MIS. fchif 52 CYF. IY. RHAGFYE 1, 1876. Pris 2? NODION OERDDOROL Fel y mae yn hysbys i luaws o'n darllenwyr, y mae Côr Undeb 1 Aberdar dan arweiniad Mr Rees Evans yn bwriadu perfformio "Samson" dydd Nadolig a'r dydd canlynol. Y mae y Côr wedi sicrhau gwasan- aeth y " Gloucester String Band" a'r Cheltenham Promenade Band, gyda offerynwyr o'r Ue. Y prif leiswyr fyddant Miss Mary Davies, Miss Martha Harries, Mr, James Sauvage, Mr T. Brandon, Hywel Cynon, Mr. T. S. Thomas, a Mr. W. Thomas. Y mae genym seiliau i gredu y ca y nifer fawr a fwriadant fod yn bresenol, wledd na cheir ond yn anaml ei bath yn Nghymru. Y mae Proffeswr Macfarren wrth y gwaith o gyf- ansoddi oratorio newydd erbyn cylchwyl gerddorol Leeds, yr hon a gynhelir y flwyddyn nesaf. Hysbysir am farwolaeth Mr. H. R. Allen, awdwr y gân boblogaidd "The Maid of Athens.'' Bu ef hefyd yn ddatganwr cymeradwy yn ei ddydd. Oed, 67. Dydd Gwener diweddaf, rhoddodd y Secred Harmonic Society ddatganiad o St. Paul (Mendelsohn]>. Y prif artistes;—Madame Sherrington, Miss Ju ia Ellen Lloyd, Foli (Bass), Chaplin Henry. Yr arweinydd, wrth gwrs, oedd Costa. Y gymäeithas gerddorol uchod ydyw yr hynaf, y gryfaf, a'r oreu yn y brif ddinas. Ei phrif amcan ydyw dysgu oratorios. Dywedir fod yn Llundain tua 50 0 gym- deithasau corawl. Yr oedd yn dda genym ganfod enw Mr James Sauvage, fel un o'r vocalists mewn cyngherdd am- rywiaethol a gynhaliwyd yn St. James Hall ar y 9fedo'r mis hwn. Maefod ein datganwyr Cymreig yn cael yr anrhydedd o gyd-gymeryd rhan ag enwogion fel Randegger a Syr Julius Benedict, yn siarad llawer. Y mae "Ring of the Nibelungen,"—opera newydd Richard Wagner—newydd ei chyhoeddi, ac y mae yn cynwys 1, 831 o dudalenau mewn nodau bychain. Cyhoeddir y bydd i wyl fawr gerddorol i gael ei chynal yn Berlin yn yr hâf nesaf, er coffadwriaeth am Mozart, yn yr hon y cymerir rhan gan holl brif gerddorion Germany, a chefnogir y mudiad gan y tywysogion. Yr oedd Duke Connaught yn cymeryd rhan mewn cyngherdd—yn ddiweddar—yn Dublin, a dywedir ei fod yn chwareuwr medrus. Cynwysa y "London Gregorian Choral Association'' 1,2500 aelodau. Deallwn fod y Côr Cymreig yn Cumberland yn mynd i berfformio'r "Messiah" dydd Nadolig, ac fod Mr J. L. Williams R. A. M. yn un o'r artùtes. Y mae casgliad o lythyrau Chopins ; (o gylch tr1 chant) gan Ries, yn Dresden. Y mae yn eithaf hysbys na ysgrifenodd y pianydd enwog linell nad yw'n werth i'w hargraffu. Casglwyd y llythyrau gan chwaer y cyfansoddwr, ac oddiwrthi hi y cafodd Mr M. Ries hwynt. Argreffir hwy yn y Germanaeg, ond gobeithir y cyfieithir hwy i ieithoedd eraill. Deallwn i Eos Morlais roddi mawr foddlonrwydd yn nghyngherdd Band ei Mawrhydi—Grenaiiier Guards dan arweiniad yr enwog Mr Dan Godfrey. Nid oes dim yn amlycach y dyddiau hyn na bod ein cymydogion y Saeson yn dyfod yn fwy o edmygwyr i dalentau y Cymry. Dywedir y cyhoeddir yn fuan weithiau Syr Stemdale Bennet yn gyflawn. Sibrydir nad â yr un côr o'r Deheudir i Eisteddfod Genedlaethol Carnarvon, oddi eithr iddynt adael yr oll o'r testynau corawl yn rhydd. Awgrymir hefyd na ddylai y gair " CYFYNGEDIG" fod yn ngeiriadur unrhyw Eisteddfod a fyn alw ei hun yn GenedlaethoL Nid oedd y gyfres ddiweddaf o gyngheiddau a gynaliwyd yn Albert Hall, yn llwyddianus mewn un« rhyw ystyr, ac yr oedd yn golled arianol o £41, 000 i'r ymgymerwyr. Drwg genym ddeall fod Mynyddog yn glaf iawn. yn America, a thrwy hyny, wedi gorfod tori ei ymrwymiadau. Da genym ddeall fod y Merthyriaid yn myned i berfformio y Creation. Cafodd perchenog y Weehly Dispatch y pleser o dalu 50p. o iawn i Mdme Cole, am i gritic y papyr hwnw ddweyd nad oedd y gantores uchod yn alluog i gymeryd rhan mewn Oratorio. Ymddengys mai un a gymerodd le Mdme Cole pan yn glaf oedd gan y critic. Ni fyddai criticyddion Lloegr yn goll dwyr pe dysgent yr hen ddiareb Gymreig hono, fod "pwyll yn well nag aur." Yr oedd Mr James Sauvage yn cymeryd rhan mewn cyngherdd yn Neuadd St. James, Llundain, dydd Sadwrn, y 9fed o'r mis hwn. Canmola y papyrau Seisnig ddadganiad Miss Mary Ann Williams yn nghyngherdd yr Athrofa Freninol ar yx 2il o'r mis hwn. Bydd yn dda gan ein cenedl ddeall fod y Meistri R. C. Jenkins, a T. D. Williams ( Eos y Dyffryn)—yn awr o'r Royal Academy—yn parhau i enill sylw, ac yn cael engag&nents yn draaml gan y Llundeiniaid. Y mae y cyfansoddwr a'r perdonydd—Joseph Gregoir newydd farw. Yr oedd yn dra phoblogaidd yn Belgium a Ffrainc.