Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

J35i[a" gjftirç tra lîjgtîm Ctf. 2. RHAGFYR, 1853. Rhif. 2. ERTHYGLAU CYSSEFI IFOR HAEL. RHIF II. Pan oedd Dafydd ab Gwilym yn athraw i Gwenonwy, merch Ifor Hael, enynodd hoffder personol rhyngddynt, ac fe ddyfeisiwyd chwedlau er mwyn eu gwahanu. Y bardd a ganodd Gywydd i ymddiheuro y ferch, ond ei thad a roddodd ben ar y gyfeillach, canys fe'i danfonodd i fynachlog yn Sir Fon, yr hyn a elwid y pryd hyny " cyflwyno plentyn i Dduw;" ac nid oes ar gael un hanes am dani mwyach. Aeth y bardd i Fon yn was i Abad, er mwyn cael eyfle i weled ei Wenonwy. Fe ganodd i " Fynaches, ni welsai ond ei hwyneb gan ei chrefyddwisg ;" ond bu pob cynnyg yn ofer, ni chafodd ei gweled. Yna fe ddaeth drachefn i ly& Ifor Hael; ac yno y cartrefai yn achlysurol. Yn gymmaint ag i Ifor Hael roi ei ferch mewn mynachdy, bu farw heb etifedd ; ac, ar ei farwolaetb, aeth ei eiddo a'i feddiannau i'w nai, sef Llewelyn ab Morgan ab Llewelyn. Felly darfu am ddisgyniad achau Ifor o barth ei Iwynau ei hun am byth. Hynod yw trefn rhagluniaeth! Tri o frodyr undad unfam, âch un yn darfod gydag ef, ac achau y lleill yn debyg o bara tra bo byd. Yr oedd Ifor Hael yn ddyn tal unionsyth, ac yn hyf a gwrol iawn; o ran ei wedd, yn hardd; ac o feddwl treiddgar, ac yn benderfynol o ran ei syniadau. Ei haelioni oedd haul ei fywyd; dyma y fan lle y Uewyrchai ei holl ogoniant dyngarol; ei byrth oeddent yn agored i'r gwan ac fr angenus ; ei galon yn doddedig a thesturiol,. a'i law o hyd yn hael; am hyn y galwyd ef yn Ifor Hael. Ei fardd, Dafydd ab Gwüym, a ddywed am ei haelioni— Ifor ydoedd afradaur;— O'i lys nid ai bys heb aur. Doe'r oeddwn, gwn, ar giniaw, IV lys yn cael gwin o'i law.— Mi a dyngaf a'm tafawd, Ffordd y trydd gwehydd gwawd, Gorau gwraig hyd Gaer Geri; A gorau gwr yw d' wr di: Ni byddai lle bai bell hepcor—arnaw, Ni byddwyf hebddaw, barodlaw bor: Ni bydd anrhegydd neb yn rhagor,—nag uwch, Nibu ogyfuwch neb ag Ifor! Maith i'th ragoriaeth gerir, Mawr ior teg y mor a'r tir. Nid hawdd gadael heibio farddoniaeth ag sydd mor fyw o feddwl cyffrous a darluniadol o Ifor Hael. Anrhegwyd y bardd un tro ar giniaw â phâr o fenyg; am y fath drysor fe ganodd gywydd, a da y gallasai, canys yr oeddent yn cynnwys llawer o aur ac arian:—• " Mehig gwynion tewion teg, A mwnai ym nihob maneg: Aur yn y naill, diaill dau. Arẅydd yw i'r llaw orau; Ac ariant, moliant miloedd, O fewn y llall—€ ennill oe<ìd." Yn y gân yma fe ddywed y Bardd na roddai ef fenyg Ifor hyd y nod i Morfydd, ped fuasai iddi hi eu ceisio! * Yr oedd gwisg Ifor, yn unol â'i oes yn cynnwys hir-lodrau a chòrbais (jacJcet) dŷn ; a gwregys wrth ba un yr hongianid cleddyf hir; dros hyn, yn dra aml, fe wisgid clogyn wedi ei addurno â myn- fyr (fur); ac am y pen fe wisgid capan, neufath o gwcwll (bonnet.) Nid oedd dim rhyfeloedd yn Nghymru yn ei amser ef, ond yr oedd yn yr Alban a Ffrainc. Ond er nad oedd rhyfeloedd yn Nghymru, yr oedd digon o ymryson gwaedlyd yn y wlad bob amser rhwng amrywiol deuluoedd i roddi cyfle i bawb a ddewisai i brofi awch ei arfau: at yr hyn y dygid y cleddyf. D. ab G. a ganodd i gledd ei noddwr fal yma:— " Hardd Ifor, hoywryw ddefod, Hir dy gledd, heuir dy glod." JlYmddengys oddi wrth waith Dafydd ab Gwilym fod Ifor Hael yn cadw gwleddoedd yn aml, ac yn hoffi y delyn a'r awen. Nid oedd son am gwrw, ond gwin ac osai a arferid. Yr oedd yno, yn ddi- ammeu, lawer o yfed fel y gellir tybied oddi wrth y llinellau can- lynol:— " Tirion grair tarian y gred, Tydi Ifor, tad yfed,— " Llys Faesaleg yn deg dy gaint—hawddamawr, Ac ar eu heurllawr, lle mawr meddwaint, Osai clir yn wir fal naint—geirw donau, Yn llawn rhadau yn llyn rhedaint, Lle bu lleferydd llifeiriaint,—gwin llestr A golau fifenestr ag hael fwyniaint." Deallir oddi wrth y Bardd fod Ifor Hael weithiau yn ymdeithio yn mhellach, ond y rhan fwyaf o'i amser a dreuliai gartref i gadw defodau yr hen Gymry mewn arferiad; megis gosod deifr ar esyth ; marchogaeth ar feirch, hela â chwn, hela ceirw, gweilch, a saethu elir, chwareu ffristial a thawlbwrdd, &c. Meddiannai hefyd hyfryd- wch wrth ymwneyd â natur yn ei gwahanol ddosparthiadau; ond nid oes modd i osod allan ragorion Ifor yn well na thrwy yr Englynion dilynol, o waith Dafydd ab Gwilym. Y gyntaf, a gynnwys ei haelder; yr ail, ei wroldeb a'i ddewrder; y trydydd, ei ddoethineb a'i allu dadleuol; y pedwerydd, ei ufudd-dod, ei ffydd, a'i foneddigeiddrwydd; y pummed, ei wreiddyn, a'i âch, a'i nodweddiad ; y chweched, ei gryfder yn chwareuon a champau yr oes ; y seithfed, ei degwch a'i brydferthwch; yr wythfed, ei onest- rwydd, ei allu fel cyfansoddwr, a'i wrthwynebiad i fradwyr; y nawfed, ei rym dynol; ac yn ddegfed, ei wychder. * Arferiad cyffredin gynt oedd ciniawa ar ddull gwledd, a rhoddi menyg yn aml yn cynwys aur, &c. Rhoddai esgobion ar eu íniaw gyssegrol yn aml lOOp. aiewn menyg er dileu dyledion eglwysig.