Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fcMá cy:lo:eigkr.á.-w,:n" ^<^^=^ä j? dibwhstol, 0 Ban Nawdd Uwch Deml Annibynol Tlrdd Y Temlwyr Da Tn Nghymru. CYF. II., RHIF 17.J GORPHENAF 1, 1874. [PEIS CENIOG CYNGHORION MEDDYGOL AC ALCOHOL. GAN JOHN PYPER, T.U.B.D. IWEBDDON. Meddap yr anrhydedd o ddal cymundeb neillduol a chyfeill- garwch agos â phrif ddiwygwyr dirwestol Prydain Fawr a'r Iwerddon, ac ni ddigwyddodd i mi gjrfarfod âg un, pan gyfeiriem ein meddyíiau at yr anhawsderau sydd ar ein ffordd, na osodai y lle blaenaf i ddylanwad cynghorion medd- ygol i ddefnyddio gwirodydd poethion fel meddyginiaeth— neu i fod yn fwy manwl, fel stimulanta. Ac y mae ein Hurdd ni yn fyw i*r anhawsder hwn. Fod alcohol yn wenwyn a addefir gan bron holl ysgrifen- wyr celfyddydol yr oes, a bod y gwlybyroedd poethion yn aflesol ac annhreuliadwy a gyfaddefir hefyd agos yr un mor gyffredinol. Ond mae y syniad fod alcohol yn werthfawr fel cynorthwy-ydd meddygol yn parhau yn dra chyfifredinol. Ac mae y syniad hwn yn un tra pheryglus a niweidiol, yr hyn sydd yn dyfod yn fwy amlwg y naill ddydd ar ol y llall. Mae yr arferiad cyífredin o yfed gwlybyroedd meddwoi yn unol â'r cynghorion meddygol a roddir i gleifion yn cyn- hyrchu afiechyd mawr, marwolaethau a meddwdod y tuhwnt i ddim ag y mae y cyffredin yn allu ei amgyífred. Y casgl- iad naturiol sydd yn codi oddiwrth y ffaith hon ydyw—pe buasai alcohol yn cael edrych arno gan feddygon, a'r cyng- horion mewn cysylltiad âg ef yn cael eu rhoddi fel y rhoddir cyfferiau eraill, na fuasaigenyf ryw lawer o reswm i gwyno o'i herwydd. Pwysir a mesurir pob math o wenwyn arall gyda'r gofal mwyaf, a nodir hwy i'w cymeryd ryw adeg neillduol, a dim ond yr adegau hyny. Ac y mae yn dra hysbys gyda phpb drwg arall ei fod yn darfod o ran ei brif effeithiau ar y cyfansoddiad mewn rhyw amser penodol, fel y bydd yn rhaid ychwanegu at y meddyglyn, neu atal neu gyfnewid y physigwriaeth. Ond y mae alcohol incwn modd ynfyd—a gawn ni ychwanegu, annuwiol—yn eithriad i'r rheol yma yn nwylaw y rhan fwyaf o feddygon, ac mae y canlyniad i foesau ac iechyd y genedl yn arswydus i feddwl am dano. Y mae cyngor i ddyn sydd yn dilyn ei alwedig- aeth i ymarfer âg ychydig wlybwr meddwol yn ddyddiöl, am amser anmhenodol, yn gyngor, nid rhag unrhyw afiech- yd, ond yn erbyn dirwest, a'r cyfryw gyngor sg y dylem drwy. bob ffordd gyfreithlon ei wrthwynebu; ac yn sicr fe gaiffdiod a gymerir dan yr enw meddyginiaeth yr un effaith ar ddyn a phe cymerid ef fel diod gyffredin. Cynyüda yr awydd angerddol am ychwaneg, a dibena yn fynych mewn gwneyd dyn yn feddwyn. Dywed Dr. Barter:—" Yr wyf yn adnabod amryw foneddigesau wedi dyfod yn fsddwon parhaus yn unig mewn canlyniad i'w meddygon eu hanog i ymarfer â'r gwlybyroedd meddwol fel math o stimulants." A'r ymyfed meddygol hwn ydyw y mwyaf twyllodrus o bob raath o yfed ; oblegid gellwch fel hyn ymarfer âg ef yn hollol gydwybodol. Mae y cymdeithasau dirwestol wedi taflu y fath ffrwd o oleuni ar ddrygedd yr arferiad â'r diod- ydd meddwol fel mai ychydig yn y dyddiau hyn all ymarfer â hwynt fel diodydd cyffredin heb deimlo rhyw gymaint o bangfeydd cydwybod. Ond y mae cyngor y meddyg yn tafla y gydwybod oddiar dŵr ei gwyliadwriaeth, ac y mae y credadur truenus wedi ei lyncu gymaint gan y syniad ei fod yn gwneyd daioni iddo nes y mae yn raddoi yn bwyta i fyny ei gyfansoddiad, yn foesol yn gystal ag yn anianyddol. Nid yn unig y mae y cynghorion meddygol hyn yn ddrwg o ran eu natur ond yn ffÿnu i raddau heíaeth a chyffredinol iawn. Crea nifer o feddwon ymysg y sobr, ac y mae yn gyru y rhai a sobrwyd i bwli llygredigaeth yn ol. Fel hyn y dywed Dr. Bennett ar y mater:—"Un bai mawr fyddaf fi yn weled fy nghyd-feddygon yn euog o hono ydyw cynghori hen feddwon diwygedig i gymeryd ychydig win a phorter tuag at wella. Gallaf gyfeirio at liaws o engreifftiau a fu yn achos iddynt syrthio yn ol i'r cyflwr o feddwdod." Ysgrifena Dr. Bayley fel y canlyn:—" Y mae swm anferth o ddrwg moesol ac anianyddol ynglŷn â'r defnydd meddygol a wneir o alcohol. Mae hyu yn berffaith afresymol, gan fod profiad yn ein dysgu nad ydynt yn angenrheidiol." Yn yr amgylchiadau y gellir dweyd fod rhyw le i dybio fod angen am danynt, gŵyr y meddyg yn eithaf da fod ganddo wen- wyn arall o'r un dosbarth a etyb yr un diben, heb roddi un math o esgus dros y chwant angerddol sy'n cael ei ddangos at y math arall o wenwyn fydd yn cael ei gymell, sef alcohól. Ac yr wyf yn meiddio dweyd ei bod yn awryn ddyledewydd arbenig ar feddygon Cristionogol i anghefnogi yr arferiad a'r gwlybyroedd meddwol, er iddynt gael eu profi yn ddefn- yddiol, os ceir rhywbeth arall wnaiff ateb yr un diben. (Gwel Rhuf. xiv. 21; 1 Cor. viii. 13.; ix. 22.; 2 Cor xi. 29.) Dyma gylch arbenig lle y gellir cymell dyn i ufudd- hau i gyfraith Crist. Nid oes yma le i'r defnydd cymedrol a wneir o alcohul fel diod, ond i'r rhai sydd yn anwybodus o'r gwirionedd syml am ei effeithiau niweidiol fel gwenwyn. Y mae, nid yn unig yn Gristionogol i ymwrthod âg ef, ond y mae yn bechod peidio gwneyd hyny wedi y profer ei fod yn niweidiol i'r cyfansoddiad. Ond nid oedd gan yr apos- tol unrhyw betrusder gyda golwg ar gyfreithlondeb yr ar- feriad o fwyta cig fel rheol györedin, ond yr oedd yn dweyd yn bendant, " Da yw na fwytaer cig trwy yr hwn y tram-