Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

?g SP C/ SWYDDOCOL RHIF. 4 O'R GYF. NEWYDD. RHIF. 26 O'R HEN GYF. îJwch Deml Aniiíbynol ÌJrdd T Temìwyr Da Yn Nghymru, EBEILL 1, 1875. [Pris Ceiniog. TEMLYDDIAETH—EI PHLEIDWYR A'I GẂRTH- BLEIDWYR. GAN Y PARCH. D. YOUNG, D.DD. (W.), MERTHYR. Mab y termau " byddin," " brwydr," « croesgad," " budd- agoliaeth," a'r cyffelyb yn cael eu defnyddio yn aml gan Demlwyr wrth siarad ac ysgrifenu. Mae yn naturiol i ni wneyd ymboliad a ydyw y íath dermau yn briodol. Os priodol galw y frawdoliaeth Demlyddol yn " fyddin," gofynir, pa un ai " byddin" mewn reserve, ynte mewn J'brwydr" ydyw? Os y cyntaf, nid oes ganddynt ddim i'w wneyd ond gwylio symudiadau, a bod yn barod wrth yr alwad i ddyfod i'r maes. Ond os y diweddaf, maent ar y maes, mewn Drwydr, acyn ynaorchestuam y fuddugoliaeth. Nid oes eisiau petruso dweyd fod y rbyfel wedi ei gyhoeddi. Mae y gelynion ar y maes wedi öymeryd meddiant o'r rhan fwyaf o'n gwlad. Mae eu safie yn gryf, eu manteision yn lliosog, a nifer fawr o gefnogwyr ganddynt, sydd yn barod i aberthu eu syniadau a'u cysylltiadau cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol, îe, eu cyrff a'u heneidiau ar allor y fasnach feddwol. Mae'n amlwg bellach mai byddin nid i wylio ond i ymladd ydyw y fyddin Demlyddol, ac fod genym faes i'w feddianu, gelynion i'w gorchfygu, a buddugoliaeth i'w henill. Un o'n peryglon ydyw ymddir- ied gormod i uniondeb ein hegwyddorion, cyfiawnder ein hachos, ac amddiffyn Duw; a thrwy hyny esgeuluso ein dyledswydd, a gadael i'n hachos i gymeryd ei siawns. Nid oès amheuaeth na lwydda ein hachos ; nid y pwnc yw, pa un a lwydda ein hachos,—na, mae hyny yn ffaith a addefir. Ond y cwestiwn yw, a gawn ni wneyd ein rhan er prysuro y llwyddiant—cymeryd rhan yn y gwaith i gael rhan o'r wobr trwy y fuddugoliaeth. Ein barn ydyw y dylai uniondeb ein hegwyddorion, a'r sicrwydd sydd genym yr enillant f uddugoliaeth, ein sym- bylu i weitbgarwch, ein cynbyrfu i ffyddlondeb a dyfaL barhad diyngog. Pan j mae y milwr yn ymwybodol fod ei achos yn gyf- iawn, mae yn naturiol iddo fod yn fwy dewr, ond pe yn meddu sicrwydd am fuddugoliaeth gallai sefyll'yn ddigryn, ac ymorchcstu yn fwy penderfynol, gan y hyddai palmwydd buddugoliaeth yn cael eu dal i fyny gan obaith o'i fewn. Un peth gwir fanteisiol tuag at sicrhau buddugoliaeth ydyw deall ansawdd, adnoddau, a rhagolygon ein gelynion. Deall, os gallwn, lle mae eu gwendid a'u nerth, ac os yn bosibl, mynu deall eu cynlluniau. Pan y oyhoeddir rhyfel rhwng teyrnasoedd, holir ya fuan pwy sydd gyda'r oohr hyn ? a'r ochr wrthwynebol ? A phwy sydd yn neutral ? Mae y cwestiynau yma yn dra phriodol i ninau i geisio eu ateb. pwt sYdd yn ein herbyn? Mae rhai yn synu fod neb yn erbyn symudiad da, ae oherwydd fod eraill yn erbyn troant hwythau hefyd. Ond i bob meddwl ystyriol nid yw yn syndod fod dynion yn codi yn erbyn symudiadau daionus, gan fod sefyllfa cym- deithas yr hyn ydyw. Mae cymdeithas mor llawn o gym- ysgedd o dda a drwg, o arferion ac ofergoelion, o grefydd- au a choelgrefyddau, nes y mae trysorgell cymdeithas yn llawn o amrywiaethau o bob math. Rhaid addef wrth edrych ar bethau ar eu golygwedd allanol fod mwy yn ein herbyn nac o'n plaid,—eu manteis- ion yn lliosocach, a'u rhagolygon yn ddisgleiriach. Mae y Senedd, swyddogion seneddol, miloedd o grefyddwyr, llawer 0 ddynion galluocaf a dysgedicaf yr oes, darllawyr a thafarnwyr wrth yr ugeiniau o filoedd, arferion cymdeith- as, blysiau y meddwon, rhagfarn dynion, anwybodaeth y lliaws, a holl nerth ellyllon y bwllfa obry, pa rai sydd wedi cyf uno eu dylanwad yn ein herbyn. Dynion da yn ein herbyn.—Rhaid i ni addef fod gan ddyn fel creadur rhesymol hawl i benderfynu ei ewyllysiau ei bun. Ond wedi'r cwbl, y mae yna rwymedigaeth foesol ar bob dyn i ddewis y da a gwrtbod y drwg. Mae gan ddyn hawl i wrthwynebu symudiadau da, ond nid oeg ganddo hawl foesol i hyny. Mae gan ddynion da rhinweddol hawl fel bodau rhesym- 01 i wrthwynebu y symudiad dirwestol, ond amheuwn fod ganddynt hawl foesol i hyny. Ehaid i ddynion rhesymol addef mae tir llwyrymiorthodiad yw y diogelaf, ac fe addefant hefyd fod cymaint dyledswydd ar ddyn i osgoi temtasiwn a'i gwrthwynebu. Paham na symudant i'r tir diogelaf fel y gallont trwy hyny osgoi temtasiynau ? Cyfyd rhai wrthwynebiad oddiar argyhoeddiad trylwyr. Nid ydynt yn canfod grym ein hegwyddorion, a gwrthodant ein rheolau. Nid ydyrn yn ameu argyhoeddiad llawer Bydd yn ein herbyn. Ond amheuwn iddynt roddi chwareu teg i'w rheswm a'u cydwybod wneyd ymchwiliad digonol cyn cyhoeddi barn. Ofnwn fod y dynion yma yn edrych ar bethau yn unochrog, a chyhoeddant farn yn rhy fuan. Derbynia eraill yr egwyddor, ond nis gallant feddwl am dderbyn y moddion, ac felly damniant yr enaid am nad yw y corff wrth eu bodd. Fel dau ddyn yn gweled dyn yn boddi, digon o raffau ganddynt i'w taflu iddOj ond nid yw y rhaiîau y feth ag oeddent hwy eisiau, yna gadawant y