Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SWYDDOCOL ÜWCÍI DBIL URT)D ANNIBYNOL T TEMLWYR DA YN NGHYMRU. RHIF 23 O'R GYF. NBWYDD. RHIF 44 O'R HEX OYF. TACHWEDD 1, 1876. [Puis Ceinioŵ GWNEUTHUR BIN DYLEDSWYDDAU. GAN MR. R. EVANS (ROLI ARAN), LLANGOLLEN. Pan ydoedd yr anfarwol Robert Hall yn gweinidogaethu gyda'r Bedyddwyr yn Cambridge, arferai gweinidog parchus alw i edrych am dano yn fynych. Ymddengys y byddai y gweinidog hwn (fel llawer o weinidogion y dyddiau presen- ol, ysywaeth) yn or-hoff o " hel chwedlau," ys dywed y Cymro ; ac i'r diben o allu myned trwy ei lithoedd yn hyawdí, effeithiol, a doniol, arferai gymeryd ychydig o frandi a dwfr oer, yn wan felly. Gan fod peiriant coch, parod, y gweinidog ar waith yn dra mynych, rhaid ydoedd cael olew yn fynych hefyd. Ond y drwg oedd fod y gweinidog wrth ymarfer â hwn yn lleihau swm y dwfr bob tro, nes o'r diwedd byddai yn galw am " haner a haner o frandi a dwfr." Yn y boreu yn gyffredin y byddai yn ymweled â Robert Hall; ac wedi ymddiddan am tua pbum' mynyd gydag ef, gofynai bob amser, " Gyfaill Hall, byddaf yn dra diolchgar i chwi am wydraid bach o frandi a dwfr oer." Gan fod Mr. Hall yn ieuengach nag ef o amryw flynyddaü, byddai yn ufüddhau iddo, gan roddi iddo yr hyn a ofyfiai am dano. Ond poenid ef yn ddirfawr oherwydd arferiad melldigedig y gweinidog. Yr oedd yn berffaith argyhoeddedig y profai yn ddamniol iddo yn y diwedd ; ac oblegid hyny, credai yn gydwybodol mai ei ddyìedswydd ydoedd dywedyd wrtho. Un boreu, daeth i dŷ Mr. Hall, ac wedi siarad ychydig, gofynodd fel arfer am ychydig o " frandi a dwfr oer ;" i'r hyn yr atebodd y gweinidog ieuanc, gan ddywedyd, "Gofynwch am bethau wrth eu henwau priodol, a rhoddaf i chwi gymaint a ewyllysiwch gael." " Beth," atebai ei gyfaill, " onid ydwyf wedi defnyddio yr enw priodol ? Gofynwyf am wydraid o frandi a dwfr." Cododd Robert Hall, a dywedodd yn benderfynol, " Dyna ydyw yr enw cyffredin, ond nid yr enw priodol; gofynwch am wydraìd o dân hylifog^ a damnedigaeth ddis- tiliedig, a chewch alwyn o hono !" Dywedir i'r gweinidog druan droi yn welw, a sefyll am amser mewn petrusder gan ei ddigofaint; e''thr yr oedd yn gwybod mai ei anmharchu ydoedd amcan Mr. Hall, ac felly estynodd ei law allan, a dywedodd :■— " Frawd Hall, diolch i chwi o waelod fy nghalon." O hyny allan, ni phrofodd " frandi a dwfr." Demlẅyr Da, a ydym ni yn gwneyd ein dyledswyddau ? Nid oes un amheuaeth nad peidio gwneuthur ein dyled- swyddau ydyw yr achos fod can lleied o Iwyddiant ar Demlyddiaeth Dda, ynghyd â phob sefydliad da arall. Y mae, ysywasth, ugeiniau o Demlwyr a änt heibio i heu feddwyn truenus heb gymaint ag edrych arno ; ac edrych- ant ar un arall yn myned i'r dafarn heb gymaint a cheisîo ei atal. Frodyr, diwygiwn! O gyraaint a'n bod yn gwybod ein dyledswyddau, prysurwn idd eu cyflawnì. Y CWESTIWN NEGROAIPP. CYNHADLEDD AM DRI DIWRNOD AR ADUNIAD. Cynhaliwyd cynhadledd yn Llundain rhwng y Ddir- prwyaeth Americanaidd, cynwysedig o'r Mil. J. J. Hick- man, G.U.D. Demlydd, a Dr. Oronhyatekha, ac eraill, o'r naiil du ; a J. Malins, G.D.U. Ysgrifenydd, ac U.D. B. Demlydd; John Kempster, U.D.G. (Lloegr) ; Parcb. G. Gladstone, U.D.B. Demlydd; W. W. Turnbuìl, U.D. Ysg. (Scotland) ; John Pyper, C.U.D.B. Demlydd (Iwer- ddon) ; Parch. M. Morgan, U.D.B. Demlydd, a W. J. Daniel (Cymru), o'r tu arall. Parhaodd o foreu Iau hyd nos Sadwrn (Hyd. 19 — 21). Yr oedd y Ddiíprwyaeth Americanaidd wedi addaw, os cyfarfyddem hwy mewn cynhadledd, gosod ger ein bron " gynygi°n penodol " tuag at aduniad ; ond pan gyfarfuom, gofyuent, er ein syndod, am ein cynygion ni ! Dywedasom nad oedd genym ddim i'w gyoyg. Yr oedd ein hargy- hoeddiadau heb newid, ac yr oeddym yn disgwyl am eu cynygion hwy. Yna' cynygiodd Dr. Oronhyatekha ei substitute (enwog), fel sail ymdrafodaeth, gan adael allan y geiriau yn ei ddiwedd—" Ar yr un pryd, cydnebydd y W. D. U. Deml hon bawl pob U. D. i ganiatau neu wrthod Breinleni i unrhyw ymofynwyr." Tra yn gwrthdystio yn erbyn i'r suhstitute hwn, yn gyfan neu yn dalfyredig, gael ei osod eto ger ein bron, cawsom ein gorfodi (trwy waith y Mil. Hickman yn cadw yn ol ei gynygion) i'ŵ ddadleu hyd brydnhawn yr ail ddiwrnod, yn ystod pa amser y profasom, oddiwrth ad- roddiadau swyddogol, ei fod yn hollol annigonol i wellâu j drwg ; gan hyny, gwrthodasom y substitute uchod, pan y gwasgwyd arnom drachefn am ein cynygion ein hunain ! Atebasom ein bod yn gofyn y gwelliant a gynygiasom yn Louisville, neu ei gyfartal, ond ein bod yn ewyllysgar i ystyried unrhyw gynllun a osodid ger ein bron. Yna traddododd y Mil. Hickmap anerchiad hyd ddiwedd