Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYF, I. EBSILL 1, 1893, EHIF 6. FFOEDIGÀETH Y PEOPHWYD. 1 Bbeít. xix. 4—8. " Ond efe a aeth i'r anialwch daith diwrnod, ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeis- yfodd iddo gael marw; dywedodd hefyd, " Digon yw ; yn awr, Arglwydd, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fì well na'm tadau." MOR agos ydyw munydau uwchaf y prophwyd at ei funydau isaf! adegau o ysprydoliaeth at adegau o ddigalondid! Un foment y mae gerbron y eyhoedd yn cael ei wisgo gan Dduw mewn tân, yn adeiladu allor Duw, ac yn adgyneu y tân sanctaidd arni, gan adferyd cenedl wrth- ryfelgar ae eilunaddolgar; y foment nesaf syrthia i iselder yspryd a digaiondid gyda goiwg ar ei holi waith, ac y mae yn well ganddo farw na byw. Yn y bennod flaenorol cawn Elias y Thesbiad yn ei ogoniant fel prophwyd y Duw goruchaf; yn y bennod hon gwelwn ef yn ddyn o gyffelyb ddefnydd a theimladau i'w frodyr, yn goddef fel ninau; ae yn ffoi i'r anialwch ar ffrwst rhag Jezebel, wedi blino ar ei einioes ac yn dymuno cael marw. Ar ben Carmel y mae wedi ei wisgo â nerth, yn adfer addoliad Duw, ac yn arwain y gau-brophwydi oedd yn felldith cymdeithas i'r dienyddle ; yn y testyn y mae efe ei hun wedi syrthio fel deilen ysgwydedig o fiaen anadl gwraig, ac wedi ffoi am ei einioes, "Ac Ahab a fynegodd i Jezebel yr hyn a wnaethai Elias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl brophwydi â'r cîcddyf. Tna Jezebel a anfonodd genad at Elias, gan ddywedyd, Eel hyn y gwnelo y duwiau, ae fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn y fory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. A phan welodd efe hyny efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ae a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Judah, ae a adawodd ei langc yno.'?