Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T MIS. CYF. I. GOEPHENAF 1, 1893. EHIF 9. YK ALWEDIGAETH UCHEL. GAN Y PAROH. ABRAHAM ROBERTS. Traddodwyd y syìwadau canlynol yn Nghapel Newsham Park, nos Sabboth, Mehejin \?>fed, 1893, ar yr achlysur o ymadawiad i Lundain. " A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragywyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddyoddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao,, a'ch sefydlo."—1 Pete v. 10. ANFONAI yr Apostol y llytbyr hwn at y Cristionogion oeddynt ar wasgar ar hyd gwledydd Asia leiaf, amgyìehiadau pa rai, ar y pryd, oeddynt yn dra helbulus. Oherwydd eu bod yn wasgaredig yn mhlith Iuddewon annyehweledig, a cheohedloedd eulun-addolgar, yr oedd eu ffydd yn barhaus yn cael ei phroíi trwy dân. Nid oedd neb a wyddai yn "Well na Petr am beryglon ymosodiadau, ac oblegid hyn, meddai ar gy- mhwysder arbenig i'w rhybuddio a'u calonogi. Dywedasai yr lesu wrtho, " Títhau, pan y'th droer, cadarnha dy frodyr," ac yn yr yspryd hwn dywed, "Gyd â Silfanus, brawd ffyddlawn i chwi (fel yr wyf yn tybied) yr ysgrifenais ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystioîaethu, mai gwir ias Duw yw yr hwn yr ydych yn sefyll ynddo." Gyda llawer o briodol- deb y gelwir Paul yn Apostol Ffydd, Ioan yn ApGstol Cariäd, a Petr yn Apostol Gobaith. Gobaith, yn anad un gras, sydd yn cryfhau, ae yn cynyrchu gwrolder. Yn nharddiad a chynydd bywyd ysprydol, rhoddir y lle pwysicaf gan yr awdwr i rss Duw, ae i gyfìawn ddadguddiad y gras hwnw yn nyfodiad yr Arglwydd lesu. Dyma gryfder y saint i wrth- ^ynebu drwg, ac i gyfiawni pob dyledswydd, Y mae yr alwedigaeth rasol y gelwir dynion iddi yn yr Efengyl yn un i fywyd uchel—mor uchel a thragywyddol ogoniant yn ÍTghrist Iesu. Ac oblegyd fody bywyd hwn yn gondemniad ar lygredigaeth y byd, y mae yn enyn ei gynddaredd. Y galw i ogoniant bywyd o sancteiddrwydd oedd yn cyfrif fod y Cristionog- ìon hyn wedi eu galw i ddyoddef. Yr oeddynt mewn perygl, gan hyny,