Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y MIS. OYF. 2. IONAWR 1, 1894. EHIF 3. Y PRAWF 0 AWDUBDOD I FADDEU. '' Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys,) Cyfod, cymmer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ."—Matthew ix. 6. GAN Y FARCH. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE. CHWI gofiwch fod hanes y wyrth hon,—iachâd y claf o'r parlys,—yn cael ei adrodd gan dri o'r Efengylwyr, gan Marc a Luc yn gystal a chan Matthew. A thuag at feddu syniad cywir am yr holl amgylchiadau cysylltiedig â hi y mae yn angenrheidiol darllen y tri adroddiad, gan eu cymharu yn ofalus â'u gilydd. Ein hamcan heddyw fydd edrych yn unig ar yr hyn a ddywed yr Iesu ei hun am y wyrth yn y testun, sef, Fod ei CHYFLAWTaAD ganddo t» BBAWF O'l AWDUEDOD I FADDEO PECHODäD. Am iachâd y dygwyd y claf gan ei gyfeillion brwdfrydig a ffyddlon at yr Iesu, gan ei ollwng i lawr ger ei fron, pan yn llefaru wrth y bobl yn y tŷ. Nid ydym yn cael iddynt cfyn dim ar ei ran. Dysgwylient yn ddiau i'w sefyllfa ddigymhoith fod yn appel digonol at y Grwaredwr am iachâd; ond yr hyn a ddywedodd yr Iesu witho ydoedd, nid " Bydd iach," eithr, "Ha fab, cymmer gysur, maddeuwyd i ti dy bechodau." Paham y dy- wedodd felly nis gallwn ond dyfalu. Dichon fod cysylltiad agos rhwng afìechyd y gŵr ieuangc,—gellir casglu oddiwrth gyfarchiad yr Iesu iddo mai ieuangc ydoedd—â phechod,—â bywyd o bechod a ddilynasid ganddo. Dichon ei fod yntau ei hun yn teimlo mwy oddiwrth ei bechod nag oddi- wrth hyd yn nod ei ganlyniadau gofidus, a'i fod yn fwy awyddus am faddeuant nac am iachâd. Pa fodd bynag, geiriau cyntaf yr lesu wrth y claf o'r parlys oeddynt, "Ha fab, cymer gysar, maddeuwyd i ti dy bech- odua."