Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T MIS. CYF. II. GOEPHENHAF 1, 1894. RHIF 9. CYFEANU AT ACHOS CEEFYDD. GAN Y DIWEDDAR BARCH. MIOHAEL JONES, FFLINT. "Pob un megys y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded ; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. Ae y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi yn mbob peth, bob amser, a chenych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda."—2 Ooe. rx. 7, 8. PATJL fu yn offeryn i blanu yr eglwys yn Corinth. Yr oedd y ddinas yn ddiarebol am ei Uygredd, ac yr oedd yr efengyl yno megys ar ei pbrawf; os llwyddai i achub y Corinthiaid, nid oedd un amheuaeth am ei nerth a'i dylatiwad i achub y pechaduriaid aflanaf ar wyneb y ddaear- Bu gweinidogaeth yr apostol yn llwyddiannus i gasglu ynghyd eglwys i Grist o blith y cymeriadau gwaethaf; meddwon, cybyddion, cribddeilwyr,. &c, a ddygwyd trwy nerth dylanwad yr ymadrodd am y gross i adael eu pechodau ac i ymrestru yn myddin yr Arglwydd Iesu. Yr oedd yr eglwys ar ei thoriad cyntaf allan yn eglwys flodeuog, ond cyn hir oerodd yn ei sel a'i chariad, a daeth i mewn iddi bethau anghydweddol â'r broffes; Gristionogol. Ysgrifenodd Paul ddau lythyr ati gyda'r amcan o'i dwyn i drefn, ac wrth ddarllen yr epistolau yr ydym yn canfod y pethau anny- munol ag oeddynt wedi ymwthio i mewn ac yn cael eu coledd ynddi. 1. TJn o'r pethau oedd cweryla ynghylch y pregethwyr oedd yn ymwelei â'r eglwys. Yr oedd hi oherwydd ei chyfoeth a'i sefyllfa ddaearyddol yn cael y pregethwyr enwocaf i'w gwasanaethu. Yr oedd Paul, a Phedr, ac Apolos, prif bregetbwyr yr oes, wedi bod yn llafurio yn eu mysg; ond yn lle derbyn eu gweinidogaeth fel cenadwri oddiwrth Grist a'i defnyddio er eu mantais ysprydol, y maent yn taeru â'u gilydd pwy oedd y pregethwr goreu, ac yn eu gwneyd yn asgwrn cynen yn eu plitb eu hunain. Dywed